you have already survived

ORIEL 2 + CAFFI
YOU HAVE ALREADY SURVIVED
17 CHWEFROR – 4 MAI 2024

 

Mae you have already survived yn arddangosfa solo gan yr artist-perfformiwr-ysgrifennwr gobscure sy’n dathlu Afon Wysg.

 

Trwy farddoniaeth, cerfluniau papur, ffotograffiaeth, sain a pherfformiad, mae gobscure yn rhannu casgliad o waith a wnaed ar hyd oes yr artist. Gan blethu’u profiad byw â hanes, myth, gwleidyddiaeth a natur, mae’r gwaith hwn yn myfyrio ar y cwrs dŵr fel cydymaith i’r broses gymhleth o wella a thyfu ar ôl trawma.

Nodweddir gwaith gobscure gan arddull farddonol sy’n defnyddio rhagenwau lluosog a thestun llythrennau bach, a ddisgrifir ganddynt fel “myfyrdod ar ein meddwl chwâl”, ac mae’n diystyru’r rhwystrau a bennir gan y rheolau a’r safoni mewn ysgrifennu a mynegiant. Gellir gweld hyn ar draws eu baneri, yn eu gosodiad papur ‘frag’, ac yn ‘flow’, cyfres o 78 o luniau digidol (un am bob milltir o’r afon) a ddangosir ar y cyd â darn sain sy’n haenu sŵn yr afon â thameidiau o ganeuon.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ddydd Sadwrn 17 Chwefror, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 4 Mai 2024.

 

Cyflwynir you have already survived gyda chymorth arian gan y Gymdeithas Awduron / Sefydliad Awduron; bwrsari gan a-n Y Cwmni Gwybodaeth i Artistiaid; Rhaglen LIVE Barrel Organ; art network north-east; Celfyddydau Anabledd Cymru Ar-lein; Baltic Commission; partneriaeth artistig Live Theatre; a Llantarnam Grange.

 

Mae you have already survived am ddim ac yn cael ei arddangos ar ein llawr gwaelod yn Oriel 2 a’n Caffi.