Gwenyn Prydeinig Ffeltio â Nodwydd â Gwnïo

GWENYN PRYDEINIG FFELTIO Â NODWYDD A GWNÏO
DYDD SADWRN 11 MAI, 10YB-3YP
YSTAFELL DDYSGU

 

Gwnewch Wenyn Prydeinig drwy Ffeltio  Nodwydd a Gwnïo gyda’r artist Lydia Needle. Yn y gweithgaredd creadigol hwn rydych yn dysgu egwyddorion sylfaenol ffeltio nodwydd 3D wrth i chi edrych ar anatomi gwenyn ac archwilio sut gallwch eu portreadu gyda gwlân a phwyth.

 

Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i ddechreuwyr neu i’r rhai sydd eisiau datblygu eu sgiliau.

 

Dewch â thun neu gynhwysydd bach i ddal eich gwenynen orffenedig.

 

Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+ ac mae’n cynnwys egwyl ar gyfer cinio.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae Lydia Needle yn rhan o gydweithfa seam ac ar hyn o bryd mae’n arddangos yn eu harddangosfa grŵp, A Visible THREAD yn Oriel 1.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.