Bagiau O Hwyl

BAGIAU O HWYL
DYDD SADWRN 13 EBRIL, 10-4YP
YSTAFELL DDYSGU

 

Cewch lond gwlad o hwyl wrth wneud ffeltio gwlyb gyda gwlân a chreu cod neu fag sling diwnïad gyda’r artist Helen MacRitchie.

 

Byddwch yn dysgu sut i osod y ffibr gwlân i wneud ffelt, yn deall sut mae ffelt yn pannu, ac yn cynnwys gwrth-haen i droi’r ffelt yn eitem 3 dimensiwn. Yna byddwch yn addurno eich bag i’w wneud yn unigryw.

 

Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+ ac mae’n cynnwys egwyl ar gyfer cinio.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae Helen MacRitchie yn rhan o gydweithfa seam ac ar hyn o bryd mae’n arddangos yn eu harddangosfa grŵp, A Visible THREAD yn Oriel 1.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.