Teimlo Trwy Arlunio

TEIMLO TRWY ARLUNIO
DYDD SADWRN 4 MAI, 10YB– 3YP
YSTAFELL DDYSGU

 

Darganfyddwch y llawenydd mewn arlunio wrth i chi gysylltu â sut rydych yn teimlo. Yn y gweithgaredd creadigol hwn, bydd yr artist Julie Heaton yn dangos rhan o’r broses mae wedi’i defnyddio wrth geisio goresgyn ei hofn o arlunio.

 

Mae pethau annisgwyl yn gallu digwydd pan fyddwch yn cau eich llygaid ac mae cyffwrdd yn llywio eich gwneud marciau.

 

Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+ ac mae’n cynnwys egwyl ar gyfer cinio.

 

Bydd yn cynnwys trafodaethau o gwmpas lles ac iechyd meddwl.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae Julie Heaton yn rhan o gydweithfa seam ac ar hyn o bryd mae’n arddangos yn eu harddangosfa grŵp, A Visible THREAD yn Oriel 1.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.