Criw Celf 2022

Mae Criw Celf wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau artistig, gan weithio y tu allan i amgylchedd yr ysgol, a gydag artistiaid proffesiynol mewn amrywiol leoliadau gwahanol. Mae Criw Celf yn rhoi cyfle i artistiaid a dylunwyr ifanc uchelgeisiol dreulio amser gyda’u cyfoedion a gydag artistiaid proffesiynol sy’n gweithio yn y sector, i ddatblygu a meithrin eu talent.

 

Yn Llantarnam Grange rydym yn trefnu rhaglenni gwahanol trwy’r flwyddyn ar gyfer disgyblion Cynradd, Uwchradd, Portffolio a Chodi’r Bar i bobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 5-13.

 

Trwy hyn, ein gobaith yw maethu creadigrwydd a rhoi blas o’r hyn y gallai celf, crefft a dylunio fod mewn addysg bellach.

CRIW CELF 2022

 

Eleni, gweithion ni gyda’r gwneuthurwr ffilmiau ac awdur Tom Cardew; y cerflunydd ac animeiddiwr fesul-ffrâm Jim Parkyn; artist henna ac ymarferwr creadigol Sam Hussain; ac artist cyfryngau cymysg / digidol Julia Brzozowska, i edrych ar themâu Newid yn yr Hinsawdd a Chelfyddyd fel Modd ar gyfer Lles.

 

Mae arddangosfa o ffrwyth hynny i’w gweld yn Oriel 2.

 

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Gwener 2 Medi, 6 – 8pm, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 29 Hydref 2022.

CYNRADD A UWCHRADD

gyda Thomas Cardew, Ebrill 2022

PORTFFOLIO A CHODI’R BAR

gyda Jim Parkyn, Awst 2022

PORTFFOLIO A CHODI’R BAR

gyda Sam Hussain, Awst 2022

PORTFFOLIO A CHODI’R BAR

gyda Julia Brzozowska, Awst 2022

Bydd tudalen Archif o Criw Celf d yn y gorffennol yn dod yn fuan.