ORIEL 1
PORTAL 2022
09 MEDI— 29 HYDREF 2022

 

Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr sy’n raddedigion sy’n ceisio codi cwr y llen ar weithio yn y celfyddydau. Drwy gynnig cefnogaeth, offer, a’r cyfle i leisiau newydd ddatblygu eu sgiliau, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt i furiau’r oriel i roi’r dechrau gorau posibl i artistiaid newydd ar gyfer creu gyrfaoedd cynaliadwy.

 

Drwy gyfrwng detholiad o arferion sy’n amrywio o baentio, ffotograffiaeth, cerflunio meddal, gwaith metel, cyfryngau digidol, cerameg, a thecstilau, mae Portal 2022 yn arddangos casgliad gan 15 o raddedigion eleni. Gydag artistiaid o sefydliadau lleol fel Met Caerdydd, Coleg Gwent, a Choleg Celfyddydau Henffordd, a thu hwnt, gan gynnwys Ysgol Gelf Ruskin, Rhydychen ac Ysgol Gelf Gray’s, Aberdeen, ein gobaith yw bod yr arddangosfa hon yn cyfleu’r egni sydd yn dod allan o ysgolion celf ledled gwledydd Prydain.

Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn archwilio’r ffyrdd niferus rydyn ni’n creu ac yn dad-greu ein hunain, yn ogystal â sut gallwn ni gysylltu, ac ailadeiladu ein cysylltiadau, â’n hamgylchfyd. Drwy fyfyrio ar sut mae ein hunaniaeth yn cael ei siapio gan fywyd bob dydd, adrodd straeon a disgwyliadau cymdeithasol, mae’r artistiaid hyn wedi ystyried sut mae sgriniau, chwarae dychmygus, hanesion personol, pêl-droed, a phrofiadau o famolaeth a gwrywdod yn parhau i effeithio ar ein synnwyr ni o’n hunan.

Gan symud y tu hwnt i’r unigolyn, mae gwaith arall yn edrych tuag allan, gan geisio ffurfio perthynas ystyrlon â’n hamgylchedd drwy gaffael gwybodaeth goll, byw mewn tirweddau bio-rhithwir, cysylltu â’r pridd, a defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy mewn ffordd ymwybodol.

Mae’r pryderon hyn yn awgrymu lefel o ofal a hunanymholiad sydd efallai’n dod yn sgil yr unigrwydd rydyn ni wedi’i brofi ar wahân dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ynghyd ag angen dybryd i fod yn rhan o’r byd naturiol, yn hytrach nag mewn gwrthdaro ag ef.

Yn cynnwys gwaith gan:
Alice Hackney, Annie Higgins, Anthony Jones, Beth Holloway, Emily Brooks Millar, Emma Caldow, Eunice Bell, Hannah Day, Jake Quinlan, Matthew Lloyd, Max Freeman, Ren Wolfe, Spencer Fritter, Stefanie Smith, Tom Hancock.

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Gwener 2 Medi, 6 – 8pm, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 29 Hydref 2022.