CYFLWYNIAD I BEINTIO CERFWEDD
DDYDD MAWRTH 25 CHWEFROR 10AM-12PM and 1-3PM
Ymunwch a’r artist Ffion Williams ddydd Mawrth 25 Chwefror 10am-12pm ac 1-3pm i greu patrymau printiedig yn defnyddio teils sbwng. Rhowch gynnig ar ddarlunio, haenu, ac arbrofi i greu patrymau ailadroddus
Mae gwaith Ffion Cymraeg Ddrwg, yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn ein Horiel Bwrdd Posteri. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

