ORIEL 2
GELLI LAS – O’R 12FED I’R 21AIN GANRIF
14 MAWRTH – 30 MAI
Arddangosfa sy’n edrych nôl dros hanes Llantarnam Grange. Mae Gelli Las – o’r 12fed i’r 21ain ganrif yn cynnwys gwybodaeth ac atgofion am y defnydd newidiol o’r adeilad, deunydd o’n harchifau, a lluniau, dogfennau a chelfwaith a roddwyd.
Gan ddechrau yn y 12fed ganrif fel fferm oedd yn gysylltiedig ag Abaty Llantarnam, enw gwreiddiol yr adeilad oedd Gelli Las. Trosglwyddwyd yr eiddo i gyfres o ddeiliaid nes iddo gael ei ailenwi’n Llantarnam Grange yn 1891.
Parhaodd i fod yn dŷ preifat nes i Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân ei gymryd drosodd yn y 1950au pan ddatblygwyd Cwmbrân fel Tref Newydd.
Yna bu dan fygythiad o gael ei ddymchwel tan yr ymyriad munud olaf pan awgrymwyd defnyddio’r adeilad fel man ar gyfer “defnydd cymunedol cyffredinol”. Ar 30 Ebrill 1966, agorwyd y ‘Llantarnam Grange Societies Club & Amateur Arts Centre’ yn swyddogol.

Mae wedi datblygu dros y 60 mlynedd diwethaf dan reolaeth Sara Bowie (1986-1995), Hywel Pontin (1995-2018), a’r cyfarwyddwr presennol, Louise Jones-Williams.
Mae’r arddangosfa hon yn cipio rhai o’r storïau a’r newidiadau sydd wedi llunio ein hadeilad ar hyd y canrifoedd, gan gloddio i’w hanes a chreu man lle gallwch ychwanegu eich hanesion a’ch atgofion.
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth, 12-2pm a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 30 Mai 2026.
Mae ein cyfarwyddwr Louise Jones Williams yn cynnal Sgwrs Hanes ddydd Sadwrn 2 Mai, 12.30 – 1.30pm. Mwy o wybodaeth a chyfle i fwcio lle yma.
Mae hyn yn rhan o’n Parti Celf, diwrnod o ddathlu yn llawn gweithgareddau creadigol, sgyrsiau, a chacen i nodi 60 mlynedd fel canolfan gelfyddydau yng Nghwmbrân! Cewch fwy o wybodaeth yma.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn sy’n dathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston



