Cyflwyniad i Wneud Masgiau

CYFLWYNIAD I WNEUD MASGIAU
31 HYDREF 2023
1-3YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 31 Hydref ar gyfer Cyflwyniad i Wneud Masgiau ble byddwn yn dylunio a gwneud masgiau anifeiliaid ac angenfilod a ysbrydolir gan yr ŵyl Geltaidd, Samhain.

 

Cynhelir y sesiwn hon rhwng 1-3pm

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd yma, neu mewn person. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.