ORIEL 1
EVERGREEN
18 TACHWEDD- 3 CHWEFROR

 

Mae rhoi anrhegion yn ffordd o ddangos ein bod yn caru ac yn gofalu am ein gilydd. Mae’r awydd naturiol hwn yn cynyddu wrth i ŵyl y Nadolig nesáu. P’un a fyddwn yn treulio misoedd yn chwilio am yr ‘anrheg berffaith’ neu’n prynu rhywbeth mewn panig ar y funud olaf, mae ein hanrhegion yn cael effeithiau sy’n mynd ymhell y tu hwnt i ninnau.

 

Y gaeaf hwn, mae Llantarnam Grange yn arddangos casgliad o grefft gynaliadwy gan artistiaid a gwneuthurwyr sy’n ymwybodol o effaith y pethau maent yn eu gwneud. O ffyrdd traddodiadol o wneud i ddefnyddio deunyddiau lleol neu wedi’u hailgylchu, mae Evergreen yn cynnig casgliad o anrhegion a fydd yn para, gan ddod â llawenydd am flynyddoedd a dangos meddylgarwch ac ystyrioldeb tuag at ein hanwyliaid a’r byd o’n cwmpas.

 

Cyflwynir gwaith gan:
2 Hungry Bakers, All in the Making, Also the Bison, Bonnie Mustoe Whitehill, Boris Pavelic, Gareth Moore, Lil’ Rabbitfoot, Loopy Ewes, Rachel Darbourne, The Hedgewitch Soapery, Val Muddyman

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel Ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 3 Chwefror 2024.