Creu lluniau, tlysau, cysgodion lampau ag edau mewn dull arluniol.

Caiff Marna ei hysbrydoli gan yr haenau o weadau a lliwiau ar Rostiroedd Gogledd Swydd Efrog, i greu cymysgedd o dirluniau, portreadau a bywyd llonydd blodeuog, gan ganolbwyntio ar wead a theimlad yr edau. Nid yw Marna yn defnyddio’r dechneg draddodiadol o raddliwio edau brodwaith, mae’n defnyddio pwythau hir a byr i greu dyfnder a ffurf. Yn aml, mae ei gweithiau’n ddiamcan iawn ac yn rhoi’r argraff o fraslun.

Mae’r edau’n gyfrwng sy’n gyffrous oherwydd ei gwahanol weadau a phwysau a dewisir y rhain yn benodol i greu symudiad, egni a phersonoliaeth ym mhob un o’i darnau, ni waeth be fo’r testun. Astudiodd Marna Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Manceinion ac mae’r hyfforddiant mewn peintio a dderbyniodd yn sail i’w thechneg mewn edau. Mae’n defnyddio’r edau a’i chymhlethdodau i greu gweithiau crefft sy’n llawn lliw ac emosiwn. Pan fydd Marna yn creu gwaith gydag edau, mae’n trin y darn yn union fel pe byddai’n defnyddio paent. Mae’n meddwl am yr haenau, tonau, gwerthoedd. Mae Marna yn mwynhau gwneud y marciau a’r gweadau a ddaw gyda’r edau, a’i nod yw dynwared y strociau brwsh a’r gweadau paent y byddai’n eu creu fel arfer yn defnyddio paent olew. Mae Marna yn cymysgu mathau o edau fel sidan, gwlân, lliain a chotwm i helpu i greu dyfnder a naws. Ei phrif nod yw creu portreadau sy’n gwneud i chi edrych yr eilwaith, sy’n gwneud i chi eisiau estyn llaw a’u cyffwrdd, sy’n herio eich disgwyliadau traddodiadol o ran portreadaeth, ac yn cwestiynu deunyddiau, gwneud marciau a natur gyffyrddol y ddau.

Marna Lunt