Gwneud Marciau Gofalgar

GWNEUD MARCIAU GOFALGAR
1 TACHWEDD
10YB-12YP A 1–3YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mercher 1 Tachwedd Mai, 10yb-12yp a 1 – 3yp, am weithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar creadigol ‒ sesiwn galw heibio am ddim yn ein horielau ar y llawr gwaelod.

Yr artist Sam Hussain fydd yn arwain y sesiwn hon a bydd y ffocws ar greu eich patrymau gwreiddiol, hardd a ysbrydolir gan flodau, ffrwythau a’r siapiau a welir ym myd Natur.

 

Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd yma, neu mewn person. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.