Cyhoeddiad Cadeirydd a Thrysorydd Newydd

Mae Bwrdd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi penodi Cadeirydd newydd, Steph Burge, a Thrysorydd newydd, Kim Colebrook.

 

Mae Steph Burge wedi gweithio yn y sector Celfyddydau, Treftadaeth a Diwylliannol ers dros 8 mlynedd, a chyn hynny bu’n gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Gyngor Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Dysgu, Dehongli a Chyfranogi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol am Flynyddoedd Cynnar, Teuluoedd a Dysgu sy’n Pontio’r Cenedlaethau ar draws Amgueddfa Cymru. Mae Steph yn frwd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a gweithio gyda phobl i greu sector diwylliannol mwy cynrychiadol, cynhwysol a hygyrch. Mae wedi gweithio mewn nifer o rolau yn Amgueddfa Cymru, mewn Ymgysylltu â’r Gymuned ac Addysg, gan arwain prosiectau sy’n canolbwyntio ar newid sefydliadol er mwyn gosod cymunedau wrth galon eu gwaith. Mae Steph hefyd yn Gynrychiolydd Cymru Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghorol Celf ar y Blaen.

 

Mae Kim Colebrook wedi gweithio yn y sectorau twristiaeth a threftadaeth drwy gydol ei gyrfa (gydag amrywiol Awdurdodau Lleol ac atyniadau, Bwrdd Croeso Cymru ac fel ymgynghorydd llawrydd), gan hyrwyddo Cymru i’r byd a bywiogi’r straeon sy’n rhan o hanes de Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu Kim yn astudio cerameg, a nawr, ynghyd â gweithio yn y sector twristiaeth, mae hefyd yn gweithio yn ei stiwdio yn Y Fenni, ac yn gwerthu ac arddangos ar draws y DU.

“Rydw i wrth fy modd o gael fy mhenodi’n Gadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn Llantarnam Grange. Ers i mi ymuno fel ymddiriedolwr yn 2021, rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y rhan hanfodol mae Llantarnam Grange yn ei chwarae fel hyb Celfyddydau a Diwylliannol yn Ne Ddwyrain Cymru, a gan ehangder y gwaith a wneir gan y tîm a’r effaith cadarnhaol mae hyn yn ei gael ar bobl. Mae’r sector a’n cymunedau’n dal i fyw mewn cyfnod heriol, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r bwrdd, Louise a’i thîm yn fy rôl newydd. Byddaf yn eu helpu i sicrhau bod y Celfyddydau yn chwarae rhan ganolog wrth ymateb i anghenion newidiol ein cymunedau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Elaine Cabuts a Peter Harding am eu daliadaethau fel Cadeirydd a Thrysorydd yn eu trefn. Mae eu gwaith yn golygu ein bod mewn sefyllfa gadarn ar gyfer y dyfodol.” – Steph Burge

“Rydw i wedi ymweld â Llantarnam Grange yn rheolaidd ers dros 30 mlynedd, felly roeddwn wrth fy modd o gael ymuno â’r Bwrdd 2 flynedd yn ôl. Mae’n fraint cael derbyn rôl y Trysorydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Steph Burge, yr Ymddiriedolwyr a’r staff anhygoel wrth iddynt barhau i ddatblygu’r effaith mae Llantarnam Grange yn ei gael yn Nhorfaen ac yng nghymuned y celfyddydau ar draws y DU. Hoffwn ddiolch hefyd i Elaine a Peter am eu holl waith caled yn Llantarnam Grange.” – Kim Colebrook

Meddai’r Cadeirydd sy’n ymadael, Elaine Cabuts “Ar ran Llantarnam Grange, hoffwn longyfarch Steph a Kim ar eu penodiad. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i arwain y Bwrdd yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac i gefnogi’r llwyddiannau niferus mae ein Cyfarwyddwr, Louise Jones-Williams a’i thîm wedi eu cyflawni dros y cyfnod hwn. Mae’n amser cyffrous i’r sefydliad gyda’n cynlluniau ailddatblygu uchelgeisiol a’n nod o ehangu ein darpariaeth er mwyn cefnogi iechyd a lles ein cymunedau. Rwy’n gwybod y bydd Steph, Kim a gweddill y Bwrdd yn parhau i weithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i gyflawni hyn ac i ysbrydoli cenedlaethau o ddoniau creadigol yn y dyfodol.”

 

Meddai’r Trysorydd sy’n gadael, Peter Harding “Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu Llantarnam Grange fel Trysorydd yn ystod y saith mlynedd diwethaf. Rwy’n falch o drosglwyddo’r awenau i Kim Colebrook ac rwy’n gwybod y bydd hi’n parhau i gyfnerthu sefyllfa ariannol y ganolfan a’i llywio’n fedrus drwy’r camau hanfodol nesaf.”

 

Meddai’r Cyfarwyddwr, Louise Jones-Williams “Rwyf wrth fy modd o groesawu Steph a Kim i’w rolau newydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw. Hoffwn ddiolch i Elaine a Peter am eu gwaith anhygoel dros y saith mlynedd diwethaf yn cefnogi’r Grange yn ystod cyfnod anodd y pandemig ac am foderneiddio ein llywodraethu, materion ariannol a’n ffyrdd o weithio yn drylwyr. Hefyd, am fy nghefnogi innau’n bersonol pan gymerais rôl y Cyfarwyddwr, gan arwain, mentora ac yn bwysicaf oll gofalu! Byddwn yn eich colli’n fawr!”