DATHLU NOWROUZ GYDA CHELF
DYDD GWENER 21 MAWRTH, 10AM-3:30PM
Ymunwch â’r artist Sahar Saki i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Iranaidd trwy gyfres o weithgareddau creadigol sy’n archwilio gwahanol elfennau o ddiwylliant Persia.
Mae’r profiad trochi hwn o draddodiadau Nowrouz yn cynnwys caligraffeg, cerddoriaeth, barddoniaeth a gwneud stampiau.
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhedeg ar y cyd ag arddangosfa bresennol Sahar Persian Tour yn Oriel 2 tan 17 Mai.
Cynhelir rhai o’r gweithgareddau yn ein Hystafell Ddysgu. Mae hon ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes mynediad i’r llawr hwn i bobl anabl.
RHAGLEN
Symud Persiadd + Seremoni De, 10yb – 12yp
Oriel 2
Yn y cyflwyniad hwn i symud mynegiannol, bydd Sahar yn eich arwain wrth i chi archwilio sut gallwch symud mewn ymateb i rythmau Persiaidd.
Noder, nid dosbarth dawns ffurfiol yw hwn ac awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cyffyrddus sy’n caniatáu i chi symud yn rhwydd.
Dilynir hyn gan seremoni de a weinir gyda losin a chnau Iranaidd, a fwyteir yn draddodiadol yn ystod Nowrouz. Bydd Sahar yn dangos sut i wneud te Persiaidd ac yn rhoi darlleniadau o gerddi gan Hafez a Rumi.
Mae’r sesiwn hon i oedolion a phobl ifanc 16+
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu e-bostiwch [email protected] i fwcio eich lle.

Caligraffeg + Gwneud Patrymau Persiaidd, 1-3.30yp
Ystafell Ddysgu
Gan ddechrau gyda chyflwyniad i ysgrifennu mewn llawysgrifen Bersiaidd, mae’r sesiwn hon yn gyfle i archwilio gwahanol dechnegau caligraffeg a defnyddio eich sgiliau i ddylunio a chreu stamp personol o’ch enw yn yr arddull Bersiaidd!
Does dim angen gwybodaeth flaenorol am yr iaith Bersiaidd arnoch.
Mae’r sesiwn hon i oedolion a phobl ifanc 16+
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu e-bostiwch [email protected] i fwcio eich lle.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes mynediad i’r llawr hwn i bobl anabl.

BWYD A DIOD
Bydd Caffi Llantarnam Grange yn gweini seigiau arbennig gyda naws Bersiaidd, yn cynnwys Stiw Fesenjan, Omled Datys Sinamon a Latte Cardamom.
Gweinir Bwyd o 9.30am – 3.30pm, a derbynnir yr archebion olaf am 2.30pm.
