ARDDANGOSFA AGORED
LLANTARNAM GRANGE 60 MLYNEDD | YEARS’
I ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân, rydym yn gwahodd artistiaid a gwneuthurwyr o bob rhan o’r DU i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa agored yn Oriel 1.
Bydd hon yn arddangosfa yn null salon, gyda chelfwaith yn cael ei ddangos o’r llawr i’r nenfwd!
Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 14 Mawrth – 30 Mai, gyda digwyddiad agor ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth, 12-2pm.
Nid oes ffi mynediad neu thema, a byddem yn croesawu’r rhai hynny sydd wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol yn arbennig. P’un a ydych wedi cael arddangosfa neu stiwdio, wedi gweithio yn ein horiel neu gaffi, neu wedi cyflwyno/mynychu gweithdai.
Un celfwaith gan bob artist. Rhaid iddo fod yn 2D, heb fod yn fwy nag A2, ac y gellir ei hongian ar wal.
CYMHWYSEDD
– Rhaid bod yr artistiaid yn byw yn DU
– Rhaid bod y gwaith mewn 2D, a heb fod yn fwy nag A2 ar y mwyaf (42cm x 59.4cm) a heb fod yn ddyfnach na 15cm
– Rhai bod modd hongian y gwaith ar wal
I GYFLWYNO MAE’N RHAID I CHI:
– Ddarllen y Canllawiau
– Llenwi’r ffurflen gais
– Llenwch ein ffurflen Monitro Cydraddoldebau.
– Rhaid bod yr artistiaid yn gallu gadael eu gwaith gyda ni ar ddydd Iau 26, dydd Gwener 27 neu ddydd Sadwrn 28 Chwefror, 9.30am – 3.30pm. A’i gasglu rhwng 1 – 6 Mehefin, 9.30 – 3.30pm.
Darllenwch y Canllawiau llawn yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch ni ar 01633 483321
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn sy’n dathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

