Gweithgareddau Gwyliau’r Gwanwyn

GWEITHGAREDDAU GWYLIAU’R GWANWYN
1 + 8 EBRILL 2026

 

Dros y Pasg eleni rydym yn rhedeg cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, a teuluoedd.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

GWNEUD GOFALGAR

 

ORIELAU PLYGU PAPUR

1 EBRILL, 10YB-12YP a 1-3YP

 

Ymunwch â’n sesiwn galw heibio am ddim i greu eich oriel plygu papur mini. Ynddi gallwch greu eich campweithiau miniatur dan ysbrydoliaeth ein harddangosfa agored yn Oriel 1!

 

ADAR COLLAGE LLIWGAR

8 EBRILL, 10YB-12YP a 1-3YP

 

Ymunwch â’n sesiwn galw heibio am ddim i greu adar collage lliwgar a ysbrydolir gan gelfwaith Tony Goble.