BRASLUNIO TREFOL
18 EBRILL, 10YB-1YP
Ymunwch â’r artist Gary Yeung ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill i archwilio golygfeydd bob dydd trwy fraslunio trefol. Gan ddechrau yn ein Hystafell Ddysgu, bydd Gary yn rhoi cyflwyniad i hanes braslunio trefol a’i waith, ac yn rhannu rhai o’i dechnegau ar gyfer braslunio golygfeydd cymhleth.
Yna cewch gyfle i fynd allan i’r dref i ddogfennu eich amgylchoedd.
Bydd papur a deunyddiau darlunio ar gael, ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai chi! Bwriwch olwg ar awgrymiadau Gary:
– Llyfr braslunio dyfrlliw
– Pinnau main (fineliners) diddos
– Pensiliau
– Set ddyfrlliw
– Brwshys
Mae gennym hefyd ddetholiad o lyfrau brasluniau fforddiadwy yn ein Siop Grefftau, os hoffech eich tretio’ch hun ar y diwrnod.
Argymhellwn eich bod yn dod â:
– Photel o ddŵr
– Het haul
– Hufen haul
Efallai yr hoffech ddod â stôl gludadwy.
Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bwciwch le drwy Eventbrite yma.
Pris: £5 + ffi bwcio
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys gadael y ganolfan yn annibynnol, a threulio 2 awr yn yr awyr agored.
Mae hyn yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn o ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

