GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST
Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.
Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.
WYTHNOS 5: BWYD
Dewch i gael eich ysbrydoli gan fwyd, ei ddeunydd pacio, ac offer trwy wneud printiau a darlunio!
Dydd Mawrth 18 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Printio Deunydd Pacio – Gwnewch ysgythriadau sychbwynt o eitemau a gedwir yng nghypyrddau eich cegin! Arbrofwch drwy ddefnyddio tetra pak a gwneuthurwr pasta i wneud printiau o gartonau, poteli, jariau a mwy.
Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.
Dydd Mercher 19 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Tlysau Bwyd Hwyliog – Trawsnewidiwch ddarluniau a chollages yn dlysau a bathodynnau a ysbrydolir gan fwyd! O’ch hoff fyrbrydau i lysiau trawiadol, byddwch yn greadigol gyda bwyd a’i ddeunydd pacio i wneud darnau celfwaith bach y gallwch eu gwisgo.
Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Oriel 2 – Galw heibio
Cewch wybod beth sydd ymlaen am weddill yr haf yma.

