Gwirionedd, Celwyddau & Alibiau

ORIEL 1 + 2
GWIRIONEDD, CELWYDDAU & ALIBIAU – CHRISTINE KINSEY
6 RHAGFYR – 28 CHWEFROR

 

Mae Gwirionedd, Celwyddau & Alibiau yn arddangosfa ôl-syllol gan yr artist a’r awdur Cymreig Christine Kinsey, sy’n archwilio’r ffyrdd mae menywod wedi cael eu portreadu yn niwylliant Celtaidd / Cristnogol y gorllewin. Trwy baentiadau, darluniau a ffilm, mae Christine yn ceisio trawsnewid y cynrychioliad rhyweddol, traddodiadol o sut mae menywod yn cael eu canfod, a sut maen nhw’n eu canfod eu hunain.

 

Mae ei phlentyndod ym Mhont-y-moel, Sir Fynwy, wedi ysbrydoli Christine i ddatblygu grŵp o gymeriadau sy’n preswylio yn ei delweddau. Mae tyfu i fyny mewn cwm diwydiannol yn y de-ddwyrain wedi bod yn ddylanwad pwysig arall, gan lunio iaith weledol sy’n corffori diwylliant Cymru.

O flaen y gefnlen hon, mae pob cymeriad yn perfformio rôl, gan ddod yn dywyswyr ac yn negesyddion sy’n teithio trwy ofod ac amser. Mewn delweddau sy’n gweithredu fel pyrth i fydoedd gweledol eraill, mae eu hymgais i ddod yn oddrych, yn hytrach na gwrthrych y ddelwedd, yn dod i’r amlwg.

 

Mae pob delwedd yn ddernyn o broses greadigol barhaus Christine, a’i nod yw tystiolaethu i’r anghyfiawnderau mae menywod yn eu hwynebu, a’r ecsbloetio cymdeithasol ac economaidd maent yn eu dioddef ledled y byd heddiw. Gan ddisgrifio’r broses hon fel taith o ddod yn ……, mae Christine yn gobeithio ymgysylltu â menywod eraill a chreu ffyrdd y gall eu lleisiau gael eu clywed.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 28 Chwefror.

 

Bydd Christine Mewn Sgwrs gyda’r ymarferwr y celfyddydau a’r gweinydd annibynnol, Gilly Adams, yn y digwyddiad agor ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr, am 1pm. Bwciwch eich lle am ddim yma.

BYWGRAFFIAD

 

Mae Christine Kinsey yn artist, awdur, curadur a chyfarwyddwr artistig sydd wedi cyfrannu’n sylweddol i’r celfyddydau yng Nghymru.

 

Roedd yn Gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, a oedd yn un o’r pum teilyngwr yng Ngwobr Amgueddfa’r Flwyddyn 2025 y Gronfa Gelf Genedlaethol; Cyd-sylfaenydd Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru; a Chynghorydd Artistig i Gyngor Dinas Caerdydd ar ailddatblygu Canol Dinas Caerdydd; ynghyd â churadu a threfnu sawl arddangosfa gŵyl yn rhyngwladol.

 

Fel artist, mae wedi arddangos yn helaeth mewn arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol blaenllaw ac mae ei phaentiadau mewn casgliadau yng Ngwlad Belg, Ynysoedd y Caribï, Catalonia, Iwerddon, Lloegr, Yr Alban, Y Swistir, Cymru ac UDA.

 

Dangosir ei gwaith mewn Casgliadau Cenedlaethol yn cynnwys: Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Oriel Gelf ac Amgueddfa Glyn Vivian, Abertawe; Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru, Caerdydd; Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Casnewydd, Gwent.

Gwaith cyhoeddedig:

Imaging the Imagination – An exploration of the relationship between the image and the word in the art of Wales, a gychwynnwyd a chyd-olygwyd gan Christine Kinsey ar y cyd â Dr Ceridwen Lloyd-Morgan. Cyhoeddwyd yn 2005 gan Wasg Gomer.

 

HON Artistiaid Benywaidd Yng Nghymru / Women Artists in Wales, curadwyd a chyd-olygwyd gan Christine Kinsey. Cyhoeddwyd yn 2022 gan yr H’mm Foundation.

 

Truth, Lies & Alibis – Encounters with Christine Kinsey in Images and Words, cyhoeddwyd gan yr H’mm Foundation in 2023, ac mae ar gael yn ein Siop Grefftau yn ystod yr arddangosfa.