LANSIAD CYHOEDDIAD A SGWRS
13 RHAGFYR, 11YB
Ymunwch â Sadia Pineda Hameed ar gyfer lansiad ei chyhoeddiad newydd ‘Signals/Agimat’ ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 11yb.
Rhwng Mai ac Awst, rhannodd Sadia gasgliad o wrthrychau, cerfluniau a ffilmiau yn Llantarnam Grange ac Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit. Mae’r cyhoeddiad yn dogfennu ac yn helaethu’r gwaith hwn ac ymchwil ehangach Sadia.
Gyda thraethodau gan:
Crystal Bennes, Colin Laker, Harun Morrison, and Ceri Thompson
Codwch gopi ar ddiwrnod y lansiad gyda’n gostyngiad arbennig £8 (£10 pris llawn)
TMae hon yn rhan o Safbwynt(iau), sef cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

