GWEITHDY: CLAI / INC/ GWNÏO

CLAI / INC/ GWNÏO
26 HYDREF, 9 + 16 TACHWEDD

 

Ar y cyd â’n harddangosfa Practice in Place yn Oriel 2, bydd artistiaid o’n Panel Cynghori Ieuenctid yn rhedeg cyfres o weithgareddau creadigol am ddim!

GWEITHDY GWNEUD CLAI
DDYDD SADWRN 26 HYDREF, 1-3YP

 

Ymunwch â’r artist Iris Murray ddydd Sadwrn 26 Hydref, 1-3pm yn ein Hystafell Ddysgu ar gyfer gweithdy gwneud clai am ddim! Byddwn yn gwneud dalwyr canhwyllau bach cerfluniol a ddyluniwyd i wneud i olau symud drwyddynt mewn ffyrdd diddorol.

 

Mae’r sesiwn hon i oedolion a phobl ifanc 13 +

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

GWEITHDY WYNEBAU INC
DDYDD SADWRN 9 TACHWEDD, 10YB-12YP

 

Ymunwch â’r artist Niamh O’Dobhain ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, 10am-12pm ar gyfer gweithdy darlunio ag inc galw heibio am ddim. Arbrofwch gyda chreu wynebau inc rhydd gan ddefnyddio eich dychymyg.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

GWEITHDY GWNEUD TLWS
DDYDD SADWRN 16 TACHWEDD, 1-3YP

 

Ymunwch â’r dylunydd lleol Rosie Merriman ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, 1-3yp ar gyfer gweithdy gwneud tlws galw heibio am ddim. Dysgwch sut i ddefnyddio appliqué, brodio a gleinio i greu eich darn unigryw i’w wisgo gyda balchder!

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.