DIGWYDDIAD AGOR + GWEITHGAREDDAU’R ARDDANGOSFA
31 MAI, 11YB-4YP
Yn ystod digwyddiad agor yr arddangosfeydd newydd, Agimat, yn Llantarnam Grange, a Signal, yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, byddwn yn dathlu lansiad gwaith newydd yr artist Sadia Pineda Hameed drwy sgyrsiau, teithiau, a gweithgareddau!
Mae Sadia wedi bod yn gweithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ymchwilio i elfennau o’r casgliad er mwyn amharu ar etifeddiaethau trefedigaethol.
Mae’r digwyddiad a’r arddangosfeydd hyn yn rhan o Safbwynt(iau), sef rhaglen gelfyddydau Gymreig uchelgeisiol, sy’n dod â saith artist, saith o safleoedd Amgueddfa Cymru, a saith sefydliad celfyddydau gweledol ledled y wlad at ei gilydd.
RHAGLEN
LLANTARNAM GRANGE, CWMBRÂN
Sesiwn Sgwrs gan yr Artist: Sadia Pineda Hameed, 11am
Bydd yr artist Sadia Pineda Hameed yn siarad am ei hymarfer, gan rannu’r ymchwil ehangach y tu ôl i’w harddangosfa solo newydd, Agimat.
Bydd Sadia yn myfyrio ar ei phrofiad a’r broses o weithio gyda chasgliadau’r amgueddfa, gan rannu’r syniadau a’r themâu yn ei gwaith newydd a arddangosir yn Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

Digwyddiad Agor, 12-2pm
Ymunwch â ni yn nigwyddiad agor ein cyfres nesaf o arddangosfeydd o 12-2pm, yn cynnwys yr arddangosfa solo Agimat gan Sadia Pineda Hameed yn Oriel 1; MMM NOTE, y gwaith newydd ar raddfa fawr gan yr artistiaid Kerstin Kartscher a Sadia Pineda Hameed yn ein Horiel Bwrdd Posteri; Trans Iberia, corff o waith yr artist John Selway o’n casgliad parhaol yn Oriel 2; ac arddangosfa grŵp gan fyfyrwyr y Radd Sylfaen Artist Dylunydd Gwneuthurwr newydd yng Ngholeg Gwent Crosskeys yn ein cyntedd.
Dyma fydd y cyfle olaf i weld y casgliad hwn o waith John Selway, a fydd yn mynd ar daith yn ddiweddarach eleni.
Bydd Caffi Llantarnam Grange ar agor o 9.30am – 3.30pm, a derbynnir yr archebion olaf am 2.30pm.

Ffrydio byw, drwy’r dydd
Bydd yr artist Mort Drew o Soundcamp, sef cydweithfa gelf sy’n gweithio ar ecolegau trawsyrru, yn ffrydio’r digwyddiad agor yn fyw, yn cynnwys sgwrs Agimat Sadia a thaith Signals. Byddant yn ffrydio o gantîn y Baddondai Pen Pwll yn Big Pit, a hefyd yn chwarae ymyriad ecolegol darlledu, gan dynnu ar synau’r amgueddfa lofaol a’r cwmpasoedd.
Mort Drew is a sound artist and creative technician working on flat listening and collective broadcasting through experimental ecological radio practices. Their work explores ephemerality, activist radio and alternative modes of being with one another, working almost exclusively with live sonic materials.
BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU, BLAENAFON
Signals: Digwyddiad Agor + Taith, 2-4pm
Teithiwch gyda ni i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru far gyfer lansiad corff newydd o ffilm, sain a gwaith cerfluniol gan Sadia Pineda Hameed, sy’n archwilio sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn cydsafiad rhyngwladol â mudiadau heddiw.
Bydd coets am ddim yn gadael Llantarnam Grange yn brydlon am 2pm.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bydd Sadia yn arwain taith o gwmpas ei gwaith am 2.30pm; dilynir hyn gan Ddigwyddiad Agor am 3pm. Bydd y goets yn gadael Big Pit am 4pm, ac yn dychwelyd i Llantarnam Grange.
Os oes gennych gludiant, gallwch fynd yno i weld y gwaith ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod.
Arddangosir Signals yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru tan 31 Awst.
Mae hon yn rhan o Safbwynt(iau), sef cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
