MMMM NOTE

Kerstin Kartscher a Sadia Pineda Hameed

Crëwyd MMMM NOTE gan yr artistiaid Sadia Pineda Hameed a Kerstin Kartscher i ail-ddychmygu cynrychioliadau materol gwerth.

 

Datblygwyd MMMM NOTE yn sgil ymchwil yn Amgueddfa Robert Owen in Newtown, Owen yn Y Drenewydd, ac mae’n gweithredu fel taleb hapfasnachol o ddyfodol lle mae gwerth yn cael ei fesur trwy foddau greddf, cred a chonsurio afresymol, ‘dryslyd’.

 

Mae’r daleb yn arteffact ac yn swynogl ar gyfer byd lle mae gwerth yn llifo trwy ffantasi cyfunol yn hytrach na galw’r farchnad, ac mae gorffwys yn cael ei werthfawrogi fel lleoliad cynhyrchiant a gweithgaredd radical.

Gan dynnu ar dalebau llafur Robert Owen o’r 19eg ganrif, mae’r Bwrdd Posteri hwn yn creu ffugiad chwareus, gan ddadadeiladu gwerth fel y’i dychymygir yn hytrach na fel y’i dyroddir. Daw’r teitl o MMMMMMM…Maniffesto (1865) gan David Medalla, lle mae’r artist yn breuddwydio am ‘gerfluniau heb obaith, gydag oriau effro a chwsg’.

 

Bydd MMMM NOTE yn cael ei harddangos o Fai 2025 – Ebrill 2026.

 

Cynhelir digwyddiad agor, sgwrs gan yr artist, a gweithgareddau eraill ar ddydd Sadwrn 31 Mai, ar y cyd ag arddangosfa solo Sadia, Agimat.

 

Cewch fwy o wybodaeth yma.

 

Mae MMMM NOTE yn rhan o Safbwynt(iau), sef cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

KERSTIN KARTSCHER

Mae Kerstin Kartscher yn artist o’r Almaen sy’n byw yn Llundain. Mae prif gorff o waith Kerstin yn seiliedig ar ddarluniau, mewn inc neu bin marcio, ar bapur neu ffabrig. Yn aml mae’r darluniau hyn yn cael eu cyfuno â gwrthrychau gwneud neu hapgael, a gyflwynir mewn gosodiadau.

 

Mae mannau hamdden yn ysbrydoli Kerstin i gynnig lleoedd nad ydynt yn perthyn neu’n cael eu rheoli, gyda gorwelion aml-bersbectif a thameidiau o bensaernïaeth sy’n bodoli ac yn anfodol, y mae menywod dewr yn ymweld â nhw weithiau.

SADIA PINEDA HAMEED

Mae Sadia Pineda Hameed yn artist ac yn ysgrifennwr Pacistanaidd Ffilipino sy’n byw yng Nghwm Ebwy, Cymru. Mae ei gwaith yn archwilio ffyrdd cuddiedig o sôn am drawma cyfunol, sy’n pontio’r cenedlaethau, trwy strategaethau gwrthdrefedigaethol cynhenid, sef breuddwydio, cymuno telepathig a chyfrinachau. Gan ddefnyddio ffilm, gosodiad, testun a pherfformiad, mae ei gwaith yn mynd yn ei flaen i ddychmygu sut olwg fyddai ar arfau’r dyfodol ar gyfer gwrthwynebu, gwerth a chyfathrebu sy’n ymgodi o’r strategaethau hyn.

 

Arweinir ei hymarfer gan broses o semioteg ryngddisgyblaethol ac ymdeithio cysylltiadol mewn gwrthwynebiad i brosesau hanesyddoli a dadleoli’r gorllewin Mae creu mythau, melodrama, llith, datguddio a chuddio yn dod yn ddyfeisiau chwareus o fewn rhesymeg neu ddisgwrs ‘dryslyd’ lle mae archifau personol a phrofiadau cyfunol yn cydgyfarfod.

YNGLŶN Â SAFBWYNT(IAU)

Lleisiau pwy a glywir mewn amgueddfeydd, hanesion pwy a adroddir, a sut mae archwilio’r gorffennol yn llywio dyfodol gwrth-hiliaeth? Dyma’r cwestiynau allweddol y mae saith artist ethnigol- a diwylliannol-amrywiol yn mynd i’r afael â nhw trwy Safbwynt(iau), sef rhaglen gelfyddydau feiddgar lle mae’r artistiaid yn ail-ddweud ac yn ail-ddychmygu storïau am hanes a gwrthrychau Cymreig, gan gynnig persbectifau newydd sy’n herio rhagdybiaethau ac yn dod â naratifau ymyleiddiedig i’r amlwg.

 

Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, ac mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

 

Cewch fwy o wybodaeth yma.