Parti Celf

PARTI CELF
2 MAI, 10YB – 4YP

 

Diwrnod o ddathlu yn llawn gweithgareddau creadigol, sgyrsiau, a chacen i nodi 60 mlynedd fel canolfan gelfyddydau yng Nghwmbrân!

 

Ar y cyd â’n harddangosfa agored Llantarnam Grange 60 mlynedd | years sy’n cynnwys gwaith gan 145 o artistiaid yn Oriel 1, a’r arddangosfa hanes Gelli Las yn Oriel 2, bydd detholiad o weithgareddau galw heibio, gweithdy Braslunio Trefol, cacen ben-blwydd, a sgyrsiau sy’n edrych nôl ar ein hanes a’n harddangosfeydd blaenorol.

 

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn sy’n dathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

RHAGLEN

ORIEL 1

Orielau Plygu Papur, 10 – 11.30yb

 

Sesiwn galw heibio am ddim yn gwneud orielau plygu papur mini yn llawn campweithiau miniatur! Crëwch eich oriel unigryw yng nghanol ein harddangosfa agored yn Oriel 1.

 

Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

ORIEL 2

Gwneud Bynting, 10yb – 1yp

 

Ychwanegwch at ein haddurniadau pen-blwydd gyda sesiwn galw heibio gwneud bynting am ddim yn Oriel 2!

 

Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

YR YSTAFELL DDYSGU

Braslunio Trefol, 10yb – 1yp

 

Ymunwch â’r artist Gary Yeung i archwilio golygfeydd bob dydd trwy fraslunio trefol. Gan ddechrau yn ein Hystafell Ddysgu, bydd Gary yn rhoi cyflwyniad i hanes braslunio trefol a’i waith, ac yn rhannu rhai o’i dechnegau ar gyfer braslunio golygfeydd cymhleth.

 

Yna cewch gyfle i fynd allan i’r dref i ddogfennu eich amgylchoedd.

 

Bydd papur a deunyddiau darlunio ar gael, ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai chi!

 

Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+

 

Pris: £5 + ffi bwcio

 

Mwy o wybodaeth a chyfle i fwcio lle yma.

ORIEL 1

Penblwydd Hapus i ti, 12yp

 

Ymunwch â’r tîm i gynnig llwncdestun pen-blwydd a mwynhau darn o gacen a wnaed gan ein caffi anhygoel!

 

Noder y bydd ein caffi ar gau am 15-20 munud fel y gall y staff ymuno â’r dathliadau am 12yp.

 

Darlunio: George Manson

ORIEL 1

Sgwrs Hanes 12.30 – 1.30yp

 

Ymunwch â’r cyfarwyddwr Louise Jones-Williams i gael gwybod mwy am hanes Llantarnam Grange, o’i chysylltiadau ag Abaty Llantarnam hyd heddiw.

 

Rhoddir y sgwrs hon ar y cyd â’n harddangosfa hanes Gelli Las yn Oriel 2 a fydd ar agor tan 30 Mai.

 

Bwciwch eich lle am ddim yma.

CYNTEDD

Y Bardd Pom Pom, 1-3yp

 

Bydd yr artist Naseem Syed yn ein cyntedd yn lledaenu llawenydd a charedigrwydd lliwgar trwy bom poms! Stopiwch am sgwrs ac ychwanegwch eich neges neu gadarnhad i’w pasio ymlaen.

 

Mae Naseem Syed yn artist amlddisgyblaethol Cymreig-Persiaidd sy’n creu profiadau cyfranogol chwareus trwy grefft, lliw a sgwrs, gan wahodd pobl i seibio, ymgysylltu, a rhannu caredigrwydd sylfaenol.

ORIEL 1

Sgyrsiau Artistiaid: Arddangosfeydd Blaenorol, 2 – 3.30yp

 

Bydd yr artistiaid Adéọlá Dewis, Becky Adams, Laura Thomas, a Billy Adams Adams yn bwrw golwg ar eu harddangosfeydd, prosiectau a’u gwaith blaenorol yn Llantarnam Grange, fel ffordd o fyfyrio ar sut mae eu hamrywiol arferion wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd.

 

Dilynir y sgyrsiau byr hyn gan sesiwn sgwrs gyda’r cyfarwyddwr presennol Louise Jones-Williams.

 

Bwciwch eich lle am ddim yma.