Sgyrsiau Artistiaid: Arddangosfeydd Blaenorol

SGYRSIAU ARTISTIAD: ARDDANGOSFEYDD BLAENOROL

2 Mai, 2 – 3.30yp

 

Bydd yr artistiaid Adéọlá Dewis, Becky Adams, Laura Thomas, a Billy Adams yn bwrw golwg ar eu harddangosfeydd, prosiectau a’u gwaith blaenorol yn Llantarnam Grange, fel ffordd o fyfyrio ar sut mae eu hamrywiol arferion wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd.

 

Dilynir y sgyrsiau byr hyn gan sesiwn sgwrs gyda’r cyfarwyddwr presennol Louise Jones-Williams.

 

Bwciwch eich lle am ddim yma.

 

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn sy’n dathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Adéọlá Dewis

 

Mae Adéọlá yn artist ac yn ysgolor carnifalau Trinbagonaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae’n ymddiddori mewn perfformiadau gwerin a brodorol, gan ysgogi disgwrs ynghylch hunaniaeth, diaspora a defod. Mae ei hymarfer yn ymwneud â darlunio, peintio, y celfyddydau perfformio, y gair llafar ac ysgrifennu. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn perfformiadau trawsnewid (carnifalau a dawnsiau masgiau) ac ysbrydolrwydd Affricanwyr ar wasgar.

 

Adéọlá oedd artist cyntaf ein Horiel Bwrdd Posteri yn 2022, gan greu’r gwaith Dancing Outside Opens the Road mewn cydweithrediad â’r ffotograffydd Catriona Abuneke. Wrth lunio’r darn, bu’n gweithio gyda phedair menyw i archwilio gwisgoedd ac addurniadau, gan gipio llawenydd ac ysbryd pob un ohonynt a throsi hyn yn gelfwaith cyhoeddus trawiadol.

Becky Adams

 

Mae Becky Adams yn gasglwr storïau, gwrthrychau a daflwyd a hen bethau ac mae’n eu defnyddio i wneud celfwaith sy’n dweud stori newydd. Bu Becky yn gweithio gyda Llantarnam Grange fel tiwtor gweithdy, gan wneud eitemau papur gyda phlant bach brwdfrydig iawn, ac fel artist arddangos, yn cyflwyno’i sioe solo gyntaf ‘A Curious World of Becky Adams’ yma yn 2010. Yn 2019, creodd ddarn ar gyfer Gallery in a Box, sef oriel gelf symudol yn cynnwys 12 darn o waith gan artistiaid cyfoes.

 

“Rwy’n dwli ar Llantarnam Grange. Mae’n lle rhyfeddol a leolir yn un o’r mannau mwyaf annisgwyl efallai – a dyna yw ei swyn. Wrth ymweld, maent yn estyn y croeso cynhesaf bob amser ac yn cynnal arddangosfeydd anhygoel i’w harchwilio. Mae fy mywyd creadigol cyfan wedi’i weu i mewn ac allan o adeiledd Llantarnam Grange ac rwy’n eich caru bod un yn angerddol!”

Laura Thomas

 

Mae Laura Thomas yn ddylunydd, gwneuthurwr ac yn artist tecstilau wedi’u gwehyddu, sefydlog sy’n arbenigo mewn cynhyrchu tecstilau anghonfensiynol ar gyfer mannau cyfoes. Mae gan Laura berthynas hir â Llantarnam Grange, gan gymryd rhan yn nifer o sioeau grŵp ers 2009 ynghyd â churadu dwy arddangosfa grŵp Resonant Colour yn 2011 a Blanket Coverage yn 2019

 

“Mae man arbennig y fy nghalon i Llantarnam Grange erioed – rwy’n ei thrysori fel arddangoswr, curadur ac ymwelydd. Mae’r gefnogaeth rydw i wedi ei derbyn gan Llantarnam Grange wrth ddatblygu fy ymarfer arddangos a churadu ar hyd y ddau ddegawd diwethaf wedi bod yn ganolog i fy natblygiad proffesiynol, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am hyn.”

Billy Adams

 

Mae Billy Adams yn grochenydd y mae ei waith yn archwilio ac yn arbrofi gydag agweddau o’r dirwedd. Daeth Billy ar draws Llantarnam Grange yn gyntaf yn ôl yn 1988 pan oedd yn artist preswyl ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg Pont-y-pŵl. Mae wedi arddangos nifer o weithiau, gyda dwy arddangosfa solo, Petrified Landscape yn 1999 ac Eroded Perception yn 2012.

 

“Rydw innau a’m myfyrwyr wedi cael budd mawr nid yn unig o’r arddangosfeydd a’r digwyddiadau, ond hefyd o amgylchedd creadigol y ganolfan. Rydw i wedi ei gwylio’n datblygu ar hyd y blynyddoedd i ddod yn un o brif ganolfannau’r celfyddydau cymhwysol yng Nghymru. Mae Llantarnam Grange yn fwy na chanolfan gelfyddydau, neu adeilad, mae’n fan lle gall y gymuned artistig dyfu a datblygu, a lle gall pobl ddod i weld celf wych. Gan wybod sut mae wedi datblygu dros y 60 mlynedd diwethaf, rwy’n edrych ymlaen yn awchus at weld y 60 mlynedd nesaf!”