Sbectrwm o’r Golwg

ORIEL 1
SBECTRWM O’R GOLWG – BRIDIE DOYLE-ROBERTS
13 MEHEFIN – 29 AWST

 

Os na fyddwn i wedi dweud wrthych chi, sut fyddech chi’n gwybod pa mor bell i mewn i’r twnnel rydw i wedi mynd…

 

Mae Sbectrwm o’r Golwg yn osodiad celf theatraidd ymgolli a grëwyd gan y perfformiwr a’r artist Bridie Doyle-Roberts sy’n camu i fyd ansicr gan fod dallineb yn dynesu.

 

Ar ôl iddi ddarganfod bod ganddi gyflwr llygaid dirywiol, mae Bridie wedi defnyddio’i phrofiad i greu dodrefn, barddoniaeth a sainluniau sy’n archwilio sut rydym yn gweld, beth ydyn ni’n ei weld, a sut mae’n teimlo pan fod y byd gweledol yn ymgolli yn y tywyllwch.

 

Trwy dynnu ar ei thaith bersonol, mae Bridie yn deffro ymdeimlad o berygl ac ansicrwydd lle na allwch ymddiried yn yr hyn mae eich llygaid yn ei ddweud wrthych. Mae eitemau domestig mewn amrywiol gyflyrau, fel cadeiriau a lampau, yn dod yn beryglon sy’n chwarae â’n canfyddiadau. Mae seinwedd tair haen, sydd ar gael trwy glustffonau disgo distaw, yn crynhoi barddoniaeth lafar yn Gymraeg a Saesneg, synau natur, yn cynnwys glaw yn bownsio oddi ar wrthrychau, a seinwedd ddramatig o drenau yn mynd i mewn i dwnelau gyda sielo ac effeithiau sain anesmwythol a grëwyd gan y Cyfansoddwr, Simon McCorry.

 

Mae hyn yn creu profiad ymgolli cartrefol lle mae Bridie yn eich gwahodd i eistedd, gwrando, a chyffwrdd â’r celfweithiau.

“Mae colli fy ngolwg wedi bod yn broses o alar a cholled, derbyn, darganfod ac argyfwng hunaniaeth. Mae fy ngwaith yn ystyried sut y mae person â nam difrifol ar ei olwg yn rhyngweithio â’r byd, faint yr ydym yn dibynnu ar ein gallu i gyffwrdd, synau, golau a chyferbyniad ac a ydym yn gwybod beth sydd tu hwnt i flaenau ein bysedd neu a yw pethau yr hyn y maent yn ymddangos neu beidio. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ymdeimlad gwerthfawrogol o ran sut brofiad yw hyn i bobl fel fi a deall bod golwg yn sbectrwm ac nad yw’n rhywbeth sydd naill ai ymlaen neu wedi diffodd.” – Bride Doyle-Roberts

 

Crëwyd Sbectrwm o’r Golwg gyda hygyrchedd creadigol yn ganolog iddo, sy’n golygu bod atebion creadigol wedi cael eu hymwreiddio yn y gwaith celf neu ar gael ar y wefan fel bod y cynnwys yn hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg, Byddar, trwm eu clyw a niwrowahanol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys sain sy’n rhan ohonynt, elfennau â sain-ddisgrifio, Braille, elfennau cyffyrddadwy, geiriau ysgrifenedig, fideo a fersiynau gyda dehongliad BSL o’r seinweddau.

 

Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’n Teithiau Arddangosfa, yn cynnwys teithiau BSL a theithiau Disgrifiad Sain, isod.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 12-2yp, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 29 Awst 2026.

 

IOs hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â’n hadeilad a mynediad, i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad, gweler ein gwybodaeth i ymwelwyr a’n Canllaw Mynediad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.

TEITHIAU ARDDANGOSFA

 

Taith Artist
Ymunwch â Bridie am sgwrs a thaith o gwmpas Spectrum of Sight yn y digwyddiad agor ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 1pm.

 

Teithiau BSL (Arwyddiaith Brydeinig)
Dydd Mercher 17 Mehefin, 1-2pm
Dydd Sadwrn 27 Mehefin, 1-2pm

 

Teithiau Disgrifiad Sain
Dydd Mercher 1 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf