Sgwrs yr Artist: Walter Keeler

YSTAFELL DDYSGU
SGWRS YR ARTIST: WALTER KEELER
25 MAWRTH, 11YB

 

Ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth bydd y crochenydd byd-enwog, Walter Keeler yn sgwrsio am ei ymarfer a’i broses. Ynghanol ei arddangosfa bresennol, bydd Walter yn rhannu ei ddiddordeb mewn potiau o’r gorffennol ac yn esbonio’i ddefnydd o wydreddau halen, priddlestri gwynion, a sut cafodd ei ysbrydoli gan y darnau cerameg y daeth ar eu traws wrth laidloffa pan oedd yn blentyn.

“Rwy’n gwneud pethau defnyddiol fel mygiau a jygiau sy’n dod â phleser a diddanwch i fywyd bob dydd. Mae rhai potiau’n cael eu ffurfio fel cerfluniau, gan chwarae ag elfennau, deunyddiau a phrosesau ‒ mae hyn yn arwain at ddarnau rhyfeddol sy’n herio’u defnyddwyr i wneud iddynt weithio. Rwy’n gobeithio bod fy nghrochenwaith yn dod â hiwmor a phleser synhwyraidd er gwaethaf y ffaith eu bod weithiau’n edrych yn syml.”

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma, neu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Gallwch ymweld ag arddangosfa Walter tan 22 Ebrill. Cewch fwy o wybodaeth yma.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.