Cyflwyniad i Glai

YSTAFELL DDYSGU
CYFLWYNIAD I GLAI
4 + 14 EBRILL 2023

 

Dan ysbrydoliaeth ein harddangosfa bresennol gan y crochenydd byd-enwog Walter Keeler, rydym yn rhedeg dau weithdy Cyflwyniad i Glai.

 

Y Pasg hwn, ymunwch â’n tîm Dysgu ar ddydd Mawrth 4 Ebrill neu ddydd Gwener 14 Ebrill i ddysgu’r technegau sylfaenol ar gyfer gwneud potiau torch a phinsio.

 

Cynhelir y sesiynau rhwng 10am-12pm neu 1-3pm

 

Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer yr hen a’r ifanc fel ei gilydd! Mae croeso i deuluoedd.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.