CELF YN Y CAFFI
BE KIND TO YOUR MIND – GRWPIAU CYMUNEDOL
30 AWST – 22 TACHWEDD
Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o’r cyflawniadau creadigol, y cyfeillgarwch, a’r angerdd dros y celfyddydau sy’n nodweddu ein grwpiau, dosbarthiadau, a’n gweithgareddau galw heibio rheolaidd.
Mae Be Kind to your Mind yn rhan barhaus o’n rhaglen sy’n ceisio dod â phobl at ei gilydd mewn man cefnogol sy’n gyffyrddus ac yn ysbrydoledig.
Mae Llantarnam Grange wedi eiriol erioed dros y celfyddydau fel cyfrwng ar gyfer lles, ac mae ein rhaglen Be Kind to your Mind yn adlewyrchu hyn: drwy ddosbarthiadau creadigol wythnosol a sesiynau galw heibio ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, yn profi problemau iechyd meddwl ac ynysigrwydd cymdeithasol, ynghyd â’r rhai hynny sy’n dyheu am gwmni pobl o’r un meddylfryd!
Trwy’r gweithgareddau hyn rydym yn gobeithio ein bod yn cael effaith ystyrlon ar fywydau bob dydd pobl drwy helpu i leihau gorbryder a straen, a meithrin hyder.
Daw’r casgliad o waith a arddangosir o’r pedwar prosiect o fewn y rhaglen: Gwneud Gofalgar, Creu gyda Hyder, Byw gyda Dementia, a Chlybiau Crefft Cymunedol.
Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â Be Kind to your Mind neu ein grwpiau rheolaidd, gofynnwch i aelod o’n tîm wrth y ddesg flaen.
Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’n Rhaglen Ddysgu yma.
Ariennir Be Kind to your Mind gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

