GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST
Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol am ddim i bobl o bob oedran a gallu!
Mae thema pob wythnos yn canolbwyntio ar wahanol ran o’n rhaglen, o’r arddangosfeydd presennol, prosiectau cymunedol, a mwy!
Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at hello@llantarnamgrange.com i fwcio eich lle.
WYTHNOS 1
Arbrofwch gyda boglynnu ffoil a chreu symbolau i wneud swynoglau a thocins.
Daw ysbrydoliaeth yr wythnos hon o’r swynoglau efydd bwrw yn ein harddangosfa bresennol Agimat gan yr artist Sadia Pineda Hameed.
Dydd Mawrth 22 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 23 Gorffennaf, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio


WYTHNOS 2
Crëwch beintiadau a darluniau miniatur a ysbrydolir gan y cartref a natur.
Gan edrych ar waith yr artist Emma Lou Andrews, sydd yn arddangos ar hyn o bryd yn ein caffi, byddwn yn cyfuno patrymau ac anifeiliaid i arbrofi gyda gwneud mini!
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 30 Gorffennaf, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio
WYTHNOS 3
Gwnewch ddarlun a chollage o olygfa tylwyth teg a ysbrydolir gan Clive Hicks-Jenkins’ yn ailadrodd Hansel a Gretel.
Mae’r wythnos hon yn rhoi blas ar y gweithgareddau fydd ar gael yng Ngŵyl Grefft Cymru a gynhelir yn Aberteifi o 5 – 7 Medi. Mae hwn hefyd yn ddathliad cynnar o arddangosfa nesaf Clive, GWRACH | WITCH yn Oriel Myrddin.
Dydd Mawrth 5 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 6 Awst, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio
Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â Gŵyl Grefft Cymru yma.


WYTHNOS 4
Archwiliwch decstilau trwy wnïo syml neu ffeltio â nodwydd i ddathlu bywyd gwyllt ein coetiroedd lleol!
Mae’r sesiynau hyn yn rhan o’r Greater Gwent BioTapestry, a, sef prosiect cymunedol uchelgeisiol a fydd yn creu tapestri 70 metr i ddathlu ein hecosystemau anhygoel a’r rhywogaethau sy’n byw yn y gwahanol gynefinoedd ar draws Gwent.
Dydd Mawrth 12 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 13 Awst, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio
Mae hwn yn brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a gyllidir drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
WYTHNOS 5
Parhewch i bwytho a gwnïo rhywogaethau o’n dyfrffyrdd lleol! Dysgwch fwy am y creaduriaid dyfrol sy’n byw yn ein ffrydiau a’n hafonydd trwy wnïo syml a ffeltio â nodwydd.
Mae’r sesiynau hyn yn rhan o’r Greater Gwent BioTapestry, a, sef prosiect cymunedol uchelgeisiol a fydd yn creu tapestri 70 metr i ddathlu ein hecosystemau anhygoel a’r rhywogaethau sy’n byw yn y gwahanol gynefinoedd ar draws Gwent.
Dydd Mawrth 19 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 20 Awst, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio

Mae hwn yn brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a gyllidir drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
WYTHNOS 6
Crëwch emwaith a bathodynnau cyfryngau cymysg a ysbrydolir gan fwyd!
I ddathlu Llwybr Bwyd Torfaen, ysbrydolir yr wythnos hon gan fwydydd lleol a bwydlen dymhorol ein caffi, neu’r peth diwethaf a fwytasoch neu eich cinio delfrydol!
Dydd Mawrth 26 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Ystafell Ddysgu* – Rhaid bwcio
Dydd Mercher 27 Awst, 10yb-12yb
Orielau i Lawr y Grisiau – Galw heibio
*Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
Rhodd awgrymedig o £2 y pen neu £10 i deulu.