ORIEL 2
HOPE AND LOSS – BETH LEAHY
30 AWST – 22 TACH

 

Mae Hope and Loss yn arddangosfa solo gan yr arlunydd Beth Leahy sy’n archwilio’r broses o ymchwilio i feddyliau a theimladau trwy bortreadu.

 

Mewn casgliad o baentiadau sy’n creu llinell amser o wahanol enydau yn ei bywyd, mae Hope and Loss yn dangos effaith nifer o ddigwyddiadau dadsefydlogi yn ei bywyd ar ddefnydd Beth o liw, taenu paent, ac ar edrychiadau ei phynciau.

Mae pobl ddieithr a ffrindiau a theulu’n ymdoddi i’w gilydd wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial gydgymysgu â realiti. Mae wynebau gwrthwynebol sy’n llawn lliwiau llachar yn eistedd wrth ochr rhai eraill ag edrychiadau pell a phaletau tawel. Mae’r portreadau cyferbyniol hyn yn creu ymdeimlad cythryblus o gael eich gwylio neu eich gweld o bob ongl.

 

Gan symud o waith a archwiliodd y byd allanol a’r ffyrdd newidiol rydym yn rhyngweithio â chelf ac â’n gilydd, i baentiadau sy’n edrych tuag i mewn at sut rydym yn prosesu emosiynau, mae Beth yn archwilio’i pherthynas newidiol â phaentio wrth iddo ddod yn ffordd o aros yn bresennol drwy gyfnod o ansicrwydd.

 

Trwy bortreadau sy’n hunangofiannol i raddau, ac y dylanwadwyd arnynt gan dor-priodas, profedigaeth yn y teulu, dychryniadau iechyd, a cholli swydd, mae gwaith tra phersonol a dwys Beth yn dyst i sut i ddygymod ag amserau anodd.

 

Roedd Beth yn rhan o Portal, ein sioe flynyddol i raddedigion yn 2022 roedd yr arddangosfa hon yn cyflwyno casgliad o waith sy’n edrych tuag yn ôl ac ymlaen, gan hel gwaith a wnaed ar wahanol gamau o’i bywyd a’i gyrfa at ei gilydd.

 

Bydd agoriad yn yr oriel ddydd Sadwrn 30 Awst, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa ar agor tan 22 Tachwedd.