Preswyliad Llydaw-Cymru

PRESWYLIAD LLYDAW-CYMRU
17-29 TACHWEDD

 

Ym mis Tachwedd 2025, cymerodd yr artist Hadrien Delattre ran mewn preswyliad yn Llantarnam Grange. Roedd Hadrian wedi graddio’n ddiweddar o EESAB de Lorient yn Llydaw, a’r preswyliad hwn oedd ei ymweliad cyntaf â Chymru.

 

Yn ystod y preswyliad, ymwelom ag orielau ac amgueddfeydd ar draws De Cymru, ac ymsefydlodd Hadrian yn Oriel 2, a’i defnyddio fel stiwdio i arbrofi a datblygu’r prosiect newydd, What’s next?

 

Rhannwyd hyn ar ddydd Sadwrn, 29 Tachwedd.

What’s next? yw cam cyntaf prosiect ymchwil newydd ar y testun ystyr delweddau. Dyma oes y deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, lle mae pobl yn cael hwyl wrth gynhyrchu a rhannu ffigyrau gwleidyddol, hanes, a sefyllfaoedd afreal, absẃrd ar y Rhyngrwyd. Dawnsio gydag arth, ymaflyd breichiau gyda mwnci, ystum syml cysylltiedig â pherthynas anifeiliaid sy’n rhoi gwedd ddoniol, hoffus hyd yn oed, ar arweinwyr neu droseddwyr. Mae’r delweddau hyn wedi dod yn erfyn newydd i wleidyddion. Mae jôc yr un person yn dod yn arf i’r llall, ffordd newydd o greu gwybodaeth ffug a dylanwadu ar farn y cyhoedd.

 

Mae What’s next? yn cwestiynu’r ffordd rydym yn trin ac yn defnyddio’r delweddau hyn, gan edrych yn ôl ar eu hystyron, ynghyd â’u heffaith a’u cwmpas posibl.

HADRIEN DELATTRE

 

Ganwyd Hadrian ym Mharis, a dechreuodd ddarlunio pan oedd yn blentyn. Oherwydd yr hoffter hwn, aeth i astudio mewn ysgol gelf yn EESAB de Lorient lle datblygodd ei ymarfer mewn peintio a fideo (ffilmiau animeiddiedig).

 

Cafodd Hadrian ei ysbrydoli gan gomics a sinema i greu setiau sy’n ddarnau o storïau anghyflawn. Gan dynnu ar atgofion teuluol a chodau ystrydebol o’r diwylliant pop, mae realiti a ffuglen yn toddi i’w gilydd. Mae Hadrian yn darganfod naratif yn y tameidiau hyn, gan archwilio potensial ôl-fflachiau, torri golygfeydd ac atgofion, i amharu ar resymeg a chwarae â’r hyn allai fod yn digwydd oddi ar y sgrin.

 

“Rwy’n creu tameidiau o storïau yr wyf yn eu datblygu mewn lle gwag, rhwng hanes teuluol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Rwyf wrthi’n barhaus yn chwarae rhwng ffuglen a realiti. Yn oes y rhwydweithiau cymdeithasol, mae pobl yn mwynhau cynhyrchu fideos Deallusrwydd Artiffisial sy’n disgrifio sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau annhebygol, a chânt eu defnyddio hefyd gan wleidyddion i greu eu gwybodaeth, eu storïau nhw: mae rhai yn pryderu a fydd hyn yn ymdebygu â « realiti ». Mae hyn holl yn sbarduno ffatri o ddelweddau.

 

Yn y preswyliad hwn, bydden i eisiau fy nghwestiynu fy hun ar y testunau hyn drwy ddechrau gweithio’n gyntaf gyda dogfennaeth, gan durio i gredau, mythau, delweddau o ddiwylliant y bobl, ac yna creu naratifau byr trwy ddarlunio, peintio, neu hyd yn oed collage. Mewn gwaith sy’n arbrofi, hoffwn greu naratifau lle mae’r hyn sy’n ddychmygol ac yn real yn cyd-fyw gyda’i gilydd.”

 

Mae’r prosiect hwn mewn cydweithrediad ag EESAB de Lorient.

 

Ariennir gan Brosiect Llydaw-Cymru Visual Arts Group Wales (VAGW) drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.