Sgyrsiau Portal Blaenorol

SGYRSIAU PORTAL BLAENOROL
22 TACHWEDD, 2-4YP

 

Ar ddiwrnod olaf ein harddangosfa flynyddol i raddedigion, Portal, byddwn yn croesawu’r cyn-arddangoswyr, Beth Leahy a Matthew Lintott, yn ôl i’r oriel. Mewn dwy sgwrs fer, byddant yn myfyrio ar eu gwaith a sut mae eu harferion wedi newid ers iddynt raddio.

 

Os hoffech ymuno, bwciwch eich lle am ddim drwy Eventbrite.

 

Cynhelir rhan o’r digwyddiad hwn ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

BETH LEAHY

 

Mae Beth yn arlunydd a oedd yn rhan o Portal yn 2022, ac gellir gweld ei harddangosfa Hope and Loss yn Oriel 2 ar hyn o bryd. Caiff ei chyfareddu gan yr hunaniaeth rydym yn ei chreu i ni ein hunain a sut gall hon wahaniaethu ac ymblethu â’r rhai hynny sy’n cael eu creu gan y ffactorau allanol yn ein bywydau. Bae Beth yn mynd â hyn ymhellach, gan arsylwi ac ystyried sut mae’r canfyddiadau hyn yn effeithio ar y ffyrdd rydym yn ymwneud ag eraill.

MATTHEW LINTOTT

 

Mae Matthew yn artist gweledol a arddangosodd yn Portal yn 2021. Mae’n arbenigo mewn gwneud printiau cerfwedd torlun pren, a daw ei ysbrydoliaeth o chwedlau, symbolaeth, a pherspectif daearegol, wrth iddo archwilio dyfnder gofod ac amser.

 

Byddwn yn mynd â’i arddangosfa solo newydd, Modern Relics, ar daith yn 2026 ac yn dod â hi i’n horiel yn 2027.

Y digwyddiad hwn yw’r cyfle olaf i weld Portal 2025 yn Oriel 1 a Hope and Loss. yn Oriel 2.