Gŵyl Grefft: Enillwyr Gwobrau

ORIEL 2
GŴYL GREFFT: ENILLWYR GWOBRAU
18 MAI – 10 AWST

 

I ddathlu 20 mlwyddiant Gŵyl Grefft, mae’r arddangosfa hon yn edrych yn ôl ar Enillwyr Gwobrau blaenorol, gan ddod â gemwaith, cerflunwaith, gwydr, cerameg, papur, lledr, enamel a thecstilau at ei gilydd mewn casgliad trawiadol o grefftau cyfoes.

 

Mae Llantarnam Grange wedi cydweithio gyda Gŵyl Grefft ers 2011, gan ein cysylltu â chymaint o artistiaid a gwneuthurwyr anhygoel ar hyd y blynyddoedd. Mae’r arddangosfa’n dathlu’r etifeddiaeth hon a’n hymrwymiad i wneuthurwyr y dyfodol wrth i ni barhau â’n partneriaeth yn eu digwyddiad newydd, Gŵyl Grefft Cymru / Craft Festival Wales, yn Aberteifi ym Medi 2024.

 

Cyflwynir gwaith gan: Betty Pepper, Fflur Owen, Janine Partington, Llio James, Nobuko Okumura, Samantha Donaldson, Tim Gee a Treefall.