Cymraeg Ddrwg

CYMRAEG DDRWG

Ffion Williams

Crëwyd Cymraeg Ddrwg gan yr artist Ffion Williams i archwilio Cymreictod, protestio, a gobaith. Gan ddefnyddio’r Gymraeg i archwilio hunaniaeth a pherthyn diwylliannol, mae Ffion yn arbrofi ac yn chwarae gydag iaith, yn haenu testun ac yn defnyddio’u dull personol o gyfieithu creadigol.

“Wrth ddefnyddio’r Gymraeg, rwy’n gwneud camgymeriadau, yn colli treigladau, ac yn defnyddio geiriau Saesneg i wneud fy mhwynt. Dw i’n galw hynny’n Gymraeg Ddrwg. Trwy hyn, rydw i’n croesawu iaith fel erfyn esblygol ar gyfer creu.” – Ffion Williams

 

Cafodd y celfwaith hwn ei arddangos rhwng Mai 2024 – Ebrill 2025.

CEFNDIR

 

Mae Ffion yn defnyddio sain, gwaith metel a motiffau baneri protestio i greu gwaith sy’n archwilio iaith, lle, protestio, a diwydianeiddio. Maent yn defnyddio’r Gymraeg i archwilio’u perthynas gymhleth ac anesmwyth â Chymreictod. Fel iaith leiafrifol a waharddwyd am dros 500 mlynedd, mae llawer yn parhau i deimlo’r golled a’r rhwystredigaeth yn yr etifeddiaeth hon.

 

Ar gyfer Cymraeg Ddrwg, bu Ffion yn cyfweld pobl yn yr orsaf drenau yn eu tref enedigol Y Fenni, fel rhan o Casgleb, sef prosiect ymchwil a datblygu a redir gan brosiect Peak Cymru. Trwy gasglu meddyliau ynglŷn ag iaith a hunaniaeth mewn lle sy’n llawn symud, cafodd Ffion ddealltwriaeth o’r amrywiol berthnasoedd â Chymru a Chymreictod. Yna troswyd y rhain i gelfwaith, gan ddefnyddio pytiau o destun i haenu profiadau a barnau, gan greu paentiadau sy’n adlewyrchu’r cyffro mewn Gorsaf Drenau.

 

Trwy ystyried iaith fel rhywbeth sydd hefyd yn symud, ac y gellir chwarae â hi, mae Ffion yn ceisio codi’r pwysau a deimlir yn aml wrth ddysgu. Mae eu dull o gyfieithu creadigol yn ceisio magu hyder a gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus wrth geisio, chwarae a chreu gyda’r Gymraeg.

FFION WILLIAMS

Mae Ffion yn artist o’r Fenni sy’n symud rhwng Cymru a Chaeredin. Astudiont beintio yng Ngholeg Celf Caeredin ac arddangosont yn ein harddangosfa raddedig flynyddol, Portal, yn 2023. Mae eu gwaith yn seiliedig ar y Gymraeg a hunaniaeth.

 

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL

Ar y cyd â Cymraeg Ddrwg, cynhaliom gyfres o weithdai a gweithgareddau creadigol am ddim.

 

25.02.25 – Cyflwyniad i Beintio Cerfwedd
30.10.24 – Gwneud Baneri Mawr
02.11.24 – Ffeindio’ch ffordd yn y celfyddydau
02.11.24 – Sgwrs yr Artist + Gweithdy Collage Iaith, gan Peak Cymru
18.05.24 – Sgwrs yr Artist + Digwyddiad Agoriadol

 

Mae’r prosiect hwn wedi cynnwys sesiynau i ysgolion lleol hefyd.

 

Ariennir Cymraeg Ddrwg gan gynllun Creu Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad y Teulu Ashley.