Gweithgareddau Camlas Creadigol

GWEITHGAREDDAU CAMLAS CREADIGOL
3 CHWEFROR – 23 MAWRTH 2024

 

Cymerwch ran yn un neu fwy o’n sesiynau creadigol lle byddwn yn dathlu’r bywyd gwyllt lleol ar hyd dyfrffyrdd tawel Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

 

Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob bore Sadwrn rhwng 3 Chwefror a 23 Mawrth. Bydd dwy sesiwn ar ddydd Llun 12 Chwefror hefyd, yn ystod hanner tymor.

 

Mae’r gweithgareddau hyn i’r hen ac i’r ifanc fel ei gilydd! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

DYDD SADWRN 10YB-12YP

Dydd Sadwrn 3 Chwefror – Glas y Dorlan Dyfrlliw
Dydd Sadwrn 10 Chwefror – Brogaod a Llyffantod Collage a Cherdyn
Dydd Sadwrn 17 Chwefror – Glöynnod Byw Ffeltiog
Dydd Sadwrn 24 Chwefror – Elyrch Cyfryngau Cymysg
Dydd Sadwrn 2 Mawrth – Fflagiau Ystlumod
Dydd Sadwrn 9 Mawrth – Dyfrgwn Ffabrig Collage
Dydd Sadwrn 16 Mawrth – Darlunio Cimychiaid Inc a Chwyr
Dydd Sadwrn 23 Mawrth – Ysgyfarnogod Brown Printiedig

 

HANNER TYMOR CHWEFROR

Dydd Llun 12 Chwefror, 10am-12pm – Crehyrod Ceramig
Dydd Llun 12 Chwefror, 1-3pm – Teils Gwas y Neidr

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch yma, neu mewn person. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Noddir y sesiynau hyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac maent yn rhan o’r rhaglen Ymgysylltu â Chamlas Mynwy ac Aberhonddu 2024.