Gweithgareddau Hanner Tymor

GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR
12, 13, 14 CHWEFROR

 

Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, teuluoedd a phlant sy’n 5 neu’n hŷn.

GWEITHGAREDDAU CAMLAS CREADIGOL
DYDD LLUN 12 CHWEFROR

 

Drwy gydol Chwefror a Mawrth rydym yn rhedeg cyfres o weithgareddau creadigol sy’n dathlu’r bywyd gwyllt lleol ar hyd dyfrffyrdd tawel Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

 

Ymunwch â ni ddydd Llun 12 Chwefror pan fyddwn yn gwneud teils gwas y neidr a chrehyrod ceramig!

 

Mae’r gweithgareddau hyn i’r hen ac i’r ifanc fel ei gilydd! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Dydd Llun 12 Chwefror, 10am-12pm – Crehyrod Ceramig
Dydd Llun 12 Chwefror, 1-3pm – Teils Gwas y Neidr Ceramig

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

SESIWN GREU I BOBL IFANC
DYDD MAWRTH 13 CHWEFROR, 10YB-12YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 13 Chwefror am Sesiwn Greu am ddim i bobl ifanc 8-13 oed lle byddwn yn gwneud fflagiau calon addurnol.

 

Cynhelir y sesiwn hon rhwng 10am-12pm

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

CYFLWYNIAD I FFELTIO Â NODWYDD
DYDD MAWRTH 13 CHWEFROR, 1-3YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 13 Chwefror 1-3pm am Gyflwyniad i Ffeltio â Nodwydd lle byddwn yn creu calonnau Sain Ffolant wedi’u ffeltio â nodwydd.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

GWNEUD GOFALGAR
DYDD MERCHER 14 CHWEFROR

 

Ymunwch â ni ddydd Mercher 14 Chwefror 10yb-12yp a 1 – 3yp, am weithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar creadigol ‒ sesiwn galw heibio am ddim yn ein horielau ar y llawr gwaelod.

 

Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn creu dyluniadau calon a blodau zentangl.

 

Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd yma, neu mewn person. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.