CRIMINAL QUILTS — RUTH SINGER

ORIEL 1 + 2
CRIMINAL QUILTS — RUTH SINGER
05 CHWEF — 02 EBRILL 2022

 

Wedi ei hysbrydoli gan ddeunydd archifol am fenywod gafodd eu cadw yng Ngharchar Stafford rhwng 1877 a 1916, mae Criminal Quilts yn arddansogfa deithiol a phrosiect llyfr gan yr artist tecstil Ruth Singer. Tyfodd allan o breswyliad yn Archifdy Swydd Stafford yn 2018, ac mae Ruth wedi ystyried y berthynas gyda mân droseddu er mwyn creu gweithiau celf tecstiliau sy’n llawn sensitifrwydd ac emosiwn. Bydd Criminal Quilts yn llenwi ein dwy oriel gan rannu haelioni Ruth wrth iddi wnïo a sgrin-brintio portreadau a straeon y menywod, gyda thosturi ym mhob pwyth.

Mae’r arddangosfa hon wedi bod yn teithio ers 2018 gyda gwaith newydd yn cael ei ychwanegu bob blwyddyn. Mae’r rhan olaf yma yn dod â’r holl waith at ei gilydd am y tro cyntaf, gan gynnwys gwaith cydweithredol newydd gyda Gillian McFarland, Tim Fowler ac Alys Power.

Ynghyd â’r arddangosfa mae ffilm, sy’n edrych ar y straeon ac yn dangos y deunydd archif gwreiddiol a ysbrydolodd Ruth, a llyfr arddangosfa sy’n cynnwys astudiaethau achos y menywod unigol, hanes y system cyfiawnder troseddol a’r amodau yn y carchar ar y pryd.

Gwyliwch Ruth yn sgwrsio gyda’n Cyfarwyddwr Louise Jones-Williams i gael gwybod mwy.


Gweithdai

Bydd Ruth yn cynnal 4 gweithdy yn ystod wythnos gyntaf yr arddangosfa.

Bydd hyn yn cynnwys gweithdy diwrnod llawn ar ddydd Sadwrn 5 Chwefror, 10yb-3yp; £35 gyda lle wedi ei gyfyngu i nifer penodol a thri sesiwn awr ar ddydd Mawrth 8 Chwefror (Diwrnod Rhyngwladol y Menywod) 10-11yb, 1yb-2yp, 2-3yp; am ddim, lle wedi ei gyfyngu i nifer penodol.

Os ydych eisiau cael gwybod mwy, yna cysylltwch â’r Uwch Swyddog Addysg, Louise Tolcher-Goldwyn, yn [email protected] neu ffoniwch 01633 483321.

Dolennau

Erthygl o Culture Colony: Opening of Ruth Singer’s Criminal Quilts at Llantarnam Grange

Gwefan Ruth

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyngor y Celfyddydau Lloegr.