GESAMTKUNSTWERK — CSAD ARDDANGOSFA

GESAMTKUNSTWERK — CSAD ARDDANGOSFA
05 FEB — 02 APRIL 2022

 

Cychwynnodd yr holl waith yn yr arddangosfa hon wrth i bobl feddwl am fowlen syml. Gan gychwyn gyda’r llestr gron, ddwfn hon mae Cardiff School of Art and Design (CSAD) Ceramics, blwyddyn raddio 2022, wedi darganfod eu hysbrydoliaeth, cyfeiriadau a’u uchelgais eu hunain i greu darnau sy’n trafod hunaniaeth, rhywedd cwiar, ecoleg a swyddogaeth. Mae’r darnau yma, sydd wedi’u cyflwyno gyda’i gilydd, wedi dod i gyfleu Gesamtkunstwerk, sef gair cyfansawdd Almaeneg sy’n golygu: “darn cyflawn o waith celf”.

Drwy ymchwilio i wahanol fathau o glai, ocsidiau a gwydredd, mae’r gwneuthurwyr yma’n cwestiynu syniadau am dirwedd, lle a pherthyn, drwy grochenwaith Groegaidd, anatomeg ddynol, a llinellau geomorffig. Gan dynnu ar y cyfoes a’r hynafol, yn ogystal â’r domestig a’r addurniadol, mae’r arddangosfa yma’n archwilio’r gwrthgyferbyniadau yn ein perthynas â gwrthrychau, lle gallan nhw fod yn offer anweledig yn ein bywydau bob dydd, ac yn fodd pwerus o arsylwi, cofio a chofnodi ein straeon, ein diwylliant a’n hanes.