Diwrnodau Ysbrydoli Criw Celf

DIWRNODAU YSBRYDOLI CRIW CELF
12, 19, 26 AWST
10YB – 2YP

 

Ym mis Awst rydym yn rhedeg 3 Diwrnod Ysbrydoli i bobl ifanc.

 

Mae’r sesiynau creadigol am ddim hyn ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn celf a chrefft.

 

Mae’r sesiynau am ddim a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu. Bydd angen i chi ddod â chinio pecyn.

 

 

GWEITHDY HENNA
DYDD SADWRN 12 AWST, 10YB – 2YP

 

Dewch i archwilio’r gelf corff hynafol, Henna, gyda Sam Hussain, Ymarferwr Creadigol ac Artist Tecstilau a Henna Therapiwtig.

 

Ar gyfer pobl ifanc yn y blynyddoedd ysgol 7 – 9

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

GWEITHDY GWNEUD PRINTIAU
DYDD SADWRN 19 NEU 26 AWST, 10YB-2YP

 

Gweithiwch gyda’r artist gweledol o Abertawe, Keith Bayliss, i greu posteri yn defnyddio technegau stensil a gwneud printiau. Bydd y gweithgaredd hwn yn cael ei ysbrydoli gan gerdd Miroslav Holub, ‘The Door’.

 

Mae dydd Sadwrn 19 Awst nawr yn llawn. Os hoffech roi’ch enw ar ein rhestr wrth gefn, mae croeso i chi gysylltu.

 

Ar gyfer pobl ifanc yn y blynyddoedd ysgol 10-13

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech roi rhodd i’n helpu i barhau i ddarparu gweithgareddau celfyddydau am ddim, cliciwch yma.