CRIW CELF
25 -29 GORFFENNAF 2022

 

Cofrestrwch ar ein rhaglen haf Criw Celf!

 

Byddwn yn cynnal rhaglen haf Portffolio a Chodi’r Bar eleni rhwng 25 – 29 Gorffennaf. Os hoffech archwilio eich creadigrwydd, ac os ydych yn byw yn y de-ddwyrain ac ym mlynyddoedd 10 – 13 yn yr ysgol, gallwch wneud cais. Mae’n gyfle gwych i unrhyw un sy’n astudio ar gyfer TGAU neu lefel A mewn Celf a Dylunio.

 

Bydd y gweithdai ymarferol pum diwrnod yn rhoi cyfle i chi archwilio technegau, cyfryngau a ffyrdd o weithio newydd, dan arweiniad artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol. Arweinir sesiynau eleni gan y cerflunydd a’r animeiddiwr stop-symudiad, Jim Parkyn; ar y cyd â’r artist henna a’r ymarferwr creadigol, Sam Hussain; a’r artist cyfryngau cymysg / digidol Julia Brzozowska.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Swyddog Addysg, Louise, yn: [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321.

 

I ymgeisio, llenwch y:

FFURFLEN HON

 

Ein dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9am ar 18 Gorffennaf 2022