ALASTAIR DUNCAN – RHYNGWEITHIAD SAIN A GWEHYDDU TAPESTRI

ORIEL 1 + 2
ALASTAIR DUNCAN – RHYNGWEITHIAD SAIN A GWEHYDDU TAPESTRI
25 MEHEFIN— 20 AWST 2022

 

Yn yr arddangosfa hon, mae’r artist Alastair Duncan yn dod â chrefft a thechnoleg at ei gilydd mewn cyfres o dapestrïau rhyngweithiol. Mae Alastrair yn gweithio nawr gyda ffibr, ffotograffiaeth a sain, ond cafodd ei hyfforddiant gwreiddiol mewn gwehyddu tapestri ac roedd yn mwynhau’r agweddau gweadeddol a rhythmig mewn gwehyddu.

 

Ceir nodweddion tebyg mewn sain, lle mae tempo a gweadau yn cael eu gwehyddu gyda’i gilydd yn yr un modd. Trwy’r arfer o gasglu recordiadau maes, daeth y cyffelybiaethau hyn i ffocws, gan symbylu Alastair i archwilio gwahanol ffyrdd ymarferol o’u hintegreiddio.

Trwy themâu sy’n cynnwys tirwedd, pensaernïaeth, gwrthdaro, cyfathrebu a chydgysylltu, mae Alastair wedi creu tapestrïau â sain ryngweithiol wedi’i gwehyddu ynddynt. Gall ymwelwyr actifadu’r rhain eu hun trwy gyffyrddiad neu agosrwydd a fydd yn sbarduno synwyryddion i chwarae sainluniau. Mae rhai ohonynt yn atgofion o gefn gwlad Cymru tra bod eraill yn chwarae deialog wedi’i manipwleiddio sy’n gweithredu fel mymrynnau o ryngweithiadau rhithiol. O ystyried y rhwystrau sy’n bodoli’n aml mewn orielau, lle nad yw cyffwrdd yn cael ei gymeradwyo neu ei ganiatáu, mae Alastair yn cynnwys profiad synhwyraidd ychwanegol yn ei waith.

Yn ogystal â’i ddarnau newydd, a ddychmygwyd gyda deunyddiau a thechnolegau penodol mewn golwg, mae Alastair wedi dychwelyd at waith hŷn, gan greu cyfeiliant sain newydd y gellir ei gyrchu ar ffonau symudol trwy godau QR.

Bydd Alastair yn gwehyddu’n fyw drwy gydol yr arddangosfa, gan weithio ar y tapestri mawr, ‘from the PUP 2 – Illusion’, bob dydd Sadwrn a dydd Llun. Gan weithio gyda’n tîm Dysgu, bydd hefyd yn arwain sesiwn gyda’n Grŵp Crefft Dementia.

Mae Alastair wedi byw a gweithio yng Nghymru am lawer o flynyddoedd ac mae wedi arddangos yn eang yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae ei waith wedi cael cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Theo Moorman i ddysgu mwy am ryngweithiad sain a chyfranogiad cynulleidfa. Mae hefyd wedi derbyn Bwrsari Artist gan a-n The Artists Information Company.

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Gwener 24 Mehefin, 5–7yp, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 20 Awst 2022.