Gwneud Torch Nadolig

GWNEUD TORCH NADOLIG
5 + 12 RHAGFYR, 5-7YP

 

Ymunwch â hwyl yr ŵyl gyda gweithdy gwneud torch aeaf dan arweiniad Kate o Botanic Possessions, siop flodau leol ym Mlaenafon.

 

Ymunwch â ni i greu torch Nadolig hardd o waith llaw y gallwch fynd â hi adref a’i mwynhau trwy gydol y tymor!

 

Mae’r gweithdy’n cynnwys:
– Cyfarwyddyd personol gan Kate, a fydd yn eich arwain cam wrth gam – o’r sylfaen i’r cyffyrddiadau olaf.
– Amrywiaeth eang o wyrddlesni tymhorol ffres, yn cynnwys pinwydd, sbriws a ffynidwydd, ynghyd ag ategolion addurnol fel orennau sych, ffyn sinamon, rhubanau a blodau tymhorol.
– Yr holl offer a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i greu torch fendigedig sy’n adlewyrchu eich steil personol.
– Danteithion a diodydd i’ch cadw’n glyd wrth i chi lunio eich campwaith

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Bwciwch le drwy Eventbrite yma.

 

Pris: £40 + ffi bwcio

 

Mae Botanic Possessions yn darparu blodau a dyfir yn lleol ar gyfer unrhyw achlysur. Dilynwch nhw i gael rhagor o wybodaeth!

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.