GALLERY 1 / LEARNING ROOM
ARTIST TALK / DEMONSTRATION: TONI DE JESUS
8 FEBRUARY, 10AM – 12PM
Ddydd Sadwrn 8 Chwefror, bydd yr artist cerameg Toni De Jesus yn rhoi sgwrs a thaith o gwmpas ei arddangosfa bresennol, Cacúlo, ac yna bydd yn dangos rhai o’i brosesau. Bydd Toni yn dechrau gyda thaith o gwmpas Oriel 1, ac yna bydd yn dangos ei dechneg torchi, i fyny’r grisiau yn ein Hystafell Ddysgu.
Mae gwaith Toni yn bodoli yn y gofod rhwng traddodiad a thor-traddodiad, ymarferoldeb ac anymarferoldeb, crefftwriaeth a chelf seiliedig ar syniadau. Mae’n cael ei ysgogi gan yr awydd am ymgysylltu, a’r themâu mae’n eu harchwilio yw lle, atgof a cholled: sef yr elfennau craidd yn ei brofiad fel mudwr.
Trwy’r sgwrs a’r arddangosiad, bydd Toni yn ystyried dweud storïau a’r broses o gynnwys deunyddiau lleol fel tywod, creigiau, gwaddodion a chleiau sydd wedi cael eu defnyddio mewn cerameg ar hyd hanes 600 mlynedd Madeira.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma, ocysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.