Gweithgareddau Creadigol Yr Haf

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
24 GORFFENNAF -28 AWST

 

Yr haf hwn rydym yn rhedeg cyfres o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Bydd y rhain yn cynnwys: Gwneud Gofalgar, Sesiynau Creu i bobl ifanc, a Dosbarthiadau Cyflwyno i deuluoedd ac oedolion.

GWNEUD GOFALGAR
DYDD MERCHER, 10YB – 12YP – 1-3YP

 

Yr haf hwn rydym yn rhedeg sesiynau Gwneud Gofalgar galw heibio am ddim bob dydd Mercher, 10yb – 12yp a 1-3yp yn ein horielau i lawr y grisiau. Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

 

Dydd Mercher 24 Gorffennaf
Dydd Mercher 31 Gorffennaf
Dydd Mercher 7 Awst
Dydd Mercher 14 Awst
Dydd Mercher 21 Awst
Dydd Mercher 28 Awst

 

Ariennir y sesiynau hyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

SESIYNAU CREU I BOBL IFANC
DYDD MAWRTH, 10YB-12YP

 

Bob dydd Mawrth, 10am-12pm, rydym yn rhedeg Sesiynau Creu am ddim i bobl ifanc 8-13 oed yn ein Hystafell Ddysgu. Archwiliwch a chael hwyl wrth greu gyda gwahanol ddeunyddiau, technegau, a mwy!

 

Dydd Mawrth 6 Awst – Gemau Arlunio
Arbrofwch gyda thynnu llinellau parhaus a gemau gwneud marciau eraill!

 

Dydd Mawrth 13 Awst – Pobl Papur
Archwiliwch gyfryngau cymysg i greu doliau celf papur!

 

Dydd Mawrth 20 Awst – Nodion Atgoffa Ysbrydoledig
Defnyddiwch wneud marciau i greu cardiau memo ar gyfer nodion atgoffa ysbrydoledig

 

Dydd Mawrth 27 Awst – Syniadau Darlunio
Dyfeisiwch syniadau darlunio a chymeriadau ar gyfer storïau plant

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

DOSBARTHIADAU CYFLWYNO
DYDD MAWRTH, 1-3YP

 

Bob dydd Mawrth, 1 – 3pm, rydym yn rhedeg Dosbarthiadau Cyflwyno am ddim i deuluoedd ac oedolion yn ein Hystafell Ddysgu. Dysgwch dechnegau newydd a chael eich ysbrydoli gan wahanol ddeunyddiau, gyda chyflwyniadau i arlunio, cerflunio a mwy!

 

Dydd Mercher 6 Awst – Lluniau wedi’u Hailwampio

 

Dydd Mercher 13 Awst – MMapiau a Gwneud, gyda defnyddiau wedi’u hailgylchu

 

Dydd Mercher 20 Awst – Creaduriaid Cerflunio Bach

 

Dydd Mercher 27 Awst – Pŵer Planhigion, sganiwch, printiwch ac arluniwch i wneud delweddau

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech roi rhodd i’n helpu i barhau i ddarparu gweithgareddau celfyddydau am ddim, cliciwch yma. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.