Writing and Other Dreams

WRITING AND OTHER DREAMS
DYDD IAU 18 GROFFENNAF, 10YB-12YP + 1-3YP
ORIEL 1

 

Ymunwch â’r bardd a’r ysgrifennwr Clare Potter ar ddydd Iau 18 Gorffennaf am 10am-12pm neu 1-3pm ar gyfer Writing and Other Dreams, sef gweithdy ysgrifennu a ysbrydolir gan ein harddangosfa bresennol Dylan Thomas and Other Dreams gan y darlunydd Bonnie Hawkins.

 

Ysbrydolwyd lluniau pensil manwl Bonnie gan ddrama Dylan Thomas, Dan y Wenallt. Gyda’n gilydd, cawn ein hysbrydoli gan y delweddau hyn ac ymateb i’w hansawdd breuddwydiol yn ein hysgrifennu.

 

Wrth fyfyrio yn ein horiel dawel yng nghanol ei chymeriadau â’u manylion cywrain ac anhygoel, cawn grwydro ar deithiau ein dychymig, gan greu ein pobl a’n lleoedd unigryw.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gael i oedolion sydd â phrofiad o ysgrifennu neu sydd heb brofiad – p’un ai fyddwch yn ysgrifennu’n aml neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Y nod yw mwynhau’r broses ac ysbrydoli eich gilydd!

 

Cynhelir y sesiwn i lawr y grisiau yn Oriel 1, yng nghanol arddangosfa Bonnie.

 

Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Cefnogwyd gan Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru