Cyflwyniad i Ddweud Storïau

CYFLWYNIAD i DDWEUD STORÏAU
DYDD MAWRTH 30 GROFFENNAF, 10YB-12YP + 1-3YP
GALLERY 1

 

Ymunwch â’r awdur plant, Claire Fayers, ar ddydd Mawrth 30 Gorffennaf naill ai am 10am-12pm neu 1-3pm am Gyflwyniad i Ddweud Storïau.

 

Disgrifir Dan y Wenallt fel drama i leisiau. Bydd y sesiwn hon yn llawn gemau dweud storïau lle gallwch greu a pherfformio eich drama i leisiau, dan ysbrydoliaeth y cymeriadau hynod a rhyfeddol yn yr arddangosfa bresennol gan yr artist Bonnie Hawkins, Dylan Thomas and Other Dreams.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Cynhelir y sesiwn i lawr y grisiau yn Oriel 1, yng nghanol arddangosfa Bonnie.

 

Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Cefnogwyd gan Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru