Y LLYFR BRASLUNIO

ORIEL 1
Y LLYFR BRASLUNIO
16 EBRILL— 11 MEHEFIN 2022

 

Mae’r llyfr braslunio yn rhan hanfodol o’r broses greadigol i lawer o artistiaid a gwneuthurwyr. Yn yr ystyr llythrennol, mae’n declyn cludadwy sy’n barod i gofnodi, nodi, braslunio, a chasglu syniadau wrth iddyn nhw godi. Fel arfer, mae’n ofod preifat ar gyfer archwilio’n rhydd, i ddatblygu syniadau dros amser ac arbrofi gyda deunyddiau a ffyrdd newydd o feddwl.

 

Gall fod yn fwy na’r gwrthrych hefyd, gan gynrychioli natur wasgarog y broses greadigol sy’n gallu digwydd yn unrhyw le! P’un a yw’n fap meddwl ar ddalen fawr o bapur, yn ludwaith ar wal eich ystafell wely, wedi’i nodi ar-lein mewn 280 o nodau ar Twitter neu’n gasgliad o ddelweddau ar Instagram, mae gan bob un ohonon ni ffyrdd gwahanol a hoff ffyrdd o weithio.

Shelley Rhodes, Llyfr Braslunio

Ar gyfer yr arddangosfa yma, bydd y gwaith tu ôl i’r llenni yn cael lle blaenllaw, wrth i 23 artistiaid a gwneuthurwyr rannu eu gwahanol ddulliau o greu. Bydd y Llyfr Braslunio yn cynnig cipolwg unigryw ar eu hysbrydoliaeth a’u proses wrth iddyn nhw rannu’r gwaith paratoi, y gwaith ymchwil a’r manylion heb eu mireinio sy’n rhan o greu.

Bydd yn cynnwys llyfrau braslunio go iawn a rhai digidol gan artistiaid sy’n gweithio mewn ystod o arddulliau, o baentio, ffotograffiaeth, lluniadu, tecstilau, cerameg, papur, print a mwy.

Yn cynnwys gwaith gan:
Billy Adams, Susan Adams, Barnaby Barford, Keith Bayliss, Zena Blackwell, Toril Brancher, Matt Caines, Richard Cox, Richard Davies, Osian Grifford, Gethin Hinshelwood, Nichola Hope, Dai Howell, Matthew Lintott, Colette Louise, Jane McKeating, Ben Meredith, Jess Parry, Shelley Rhodes, Beth Swift, Louise Tolcher Goldwyn, Rhiannon Williams

Byddwn ni hefyd yn rhannu gwaith a gyflwynwyd i’n Llyfr Braslunio Cymunedol ac yn cynnal cyfres o weithdai, gan gynnwys:

Sesiwn galw heibio Braslunio – Dydd Llun 25 Ebrill, 16 Mai, a 6 Mehefin, unrhyw adeg rhwng 10yb – 12yp

Gwneud Llyfr gyda Richard Cox – Dydd Sadwrn 14 Mai, 10yb – 3yp

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Sadwrn 16 Ebrill, 12–2pm, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 11 Mehefin 2022.

Zena Blackwell, left: Untitled; right: study for reflection