TAPESTRI TREF TREFTADAETH BLEANAFON

ORIEL 1
TAPESTRI TREF TEFTADAETH BLAENAFON 
06 — 09 EBRILL2022

 

Tapestri Tref Treftadaeth Blaenafon yn brosiect gan Head4Arts, artist tecstil Penny Turnbull, arbenigwr digidol Natasha James, a phreswylwyr Blaenafon. Drwy casglu atgofion personol am siopa yn Broad Street, fel cwsmeriaid a siopwyr, mae’r collage tapestri ysblennydd 36-troedfedd hwn yn rhannu’r straeon hyn drwy waith gweu, gwnïo, crosio a gwehyddu.

 

Mae’r map cof rhyngweithiol hwn o Broad Street yn cymysgu eiliadau penodol mewn amser, a safbwyntiau gwahanol, sydd oll yn ymwneud â’r straeon a gasglwyd. Dydy rhai o’r siopau a ddangosir yma ddim yn bodoli mwyach ond maen nhw wedi cael eu hail-ddychmygu o’r disgrifiadau. Dros y blynyddoedd, mae’r siopau wedi newid fformat a defnydd yn aml, ond yma, mae pob un wedi’i rhewi mewn amser i adlewyrchu atgof personol. Mae’r cipolwg yma i hanes cymdeithasol y dref, wedi’i ymgorffori’n ddigidol yng ngwead y gwaith celf, fel y gallwch glywed lleisiau’n adrodd y straeon drwy dynnu’r cardiau o’r pocedi yn y “ffordd”.

Mae hwn yn brosiect byw a fydd yn cael ei ddefnyddio’n ddiweddarach i gefnogi gwaith hel atgofion a sgyrsiau ar draws cenedlaethau yng Nghartref Gofal Arthur Jenkins ym Mlaenafon.

Gan fod y prosiect wedi cychwyn cyn cyfnod Covid, mae wedi gorfod addasu yn ôl yr amgylchiadau, gan ddefnyddio pecynnau crefft i alluogi cyfranogwyr i helpu i wneud rhannau o’r gwaith celf (y capel a’r ffordd). Mae’r ‘tapestri byw’ sy’n deillio o hyn yn ymgorffori gwaith cymuned sy’n byw ar wahân ond sy’n gweithio gyda’i gilydd i gadw a rhannu atgofion ar y cyd o hanes masnachol Blaenafon.

Nod y Rhaglen Treftadaeth Treflun yw hybu diddordeb ym Mlaenafon drwy weithgareddau i helpu i ailddarganfod ei gorffennol ac ailsefydlu ei chysylltiadau â’r gymuned leol.

Cyflwynir Partneriaeth Treftadaeth Treflun Blaenafon drwy gyfraniadau cyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw ac ymgeiswyr sector preifat.