ORIEL 1
DADANSODDI FFOTOGRAFFIAETH: MOHAMED HASSAN
20 IONAWR
Ymunwch â’r ffotograffydd dogfennol Mohamed Hassan a’n Swyddog Arddangosfeydd, Savanna Dumelow ar gyfer sesiynau grŵp bychan yn dadansoddi ffotograffiaeth.
Anelir y sesiynau hyn at ffotograffwyr cyfoes, celfyddyd gain, ac arbrofol a hoffai gael adborth ar eu gwaith, cyngor curadurol, ysbrydoliaeth, a chyfle i ddysgu gan bobl eraill.
Dewch ag enghreifftiau o’ch lluniau i’w rhannu.
Mae Mohamed Hassan yn ffotograffydd o dras Gymreig-Eifftaidd sydd wedi byw a gweithio yn Sir Benfro ers 2007. Mae ganddo radd anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffotograffiaeth ac mae newydd orffen MA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei waith wedi cael ei arddangos ledled Cymru, yn Oriel Gelf Glyn Vivian, Ffotogallery, Oriel Mission, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Oriel Davies, a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Yn rhyngwladol, mae wedi arddangos yn yr arddangosfa deithiol ‘Facing Britain’ ac mae ganddo arddangosfeydd solo yn Cairo yn ei wlad enedigol.
Savanna Dumelow yw ein Swyddog Arddangosfeydd ac mae’n gweithio yn Llantarnam Grange ers 2018. Hyfforddodd Savanna fel ffotograffydd ac astudiodd Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n arbrofi’n aml â phrosesau amgen fel Sganograffeg. Mae wedi arddangos gwaith gyda’r Diffusion Festival, Shutter Hub, a chymerodd ran yn yr arddangosfa grŵp ‘Ode to Anna’ gyda Phrame Collective yn Llantarnam Grange yn 2021, a oedd yn edrych nôl ar cyanoteipiau’r botanegydd a’r artist Anna Atkins.
Cynhelir dwy sesiwn, dewiswch amser wrth fwcio.
1.30-2.30YP
3.00-4.00YP
Mae’r sesiynau ar gyfer oedolion neu bobl ifanc 16+
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma, neu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.